Newyddion

Cronfa arfaethedig i roi hwb i fusnesau canol y ddinas

Wedi ei bostio ar Thursday 6th October 2016

 Mae mentrau i helpu i lenwi siopau gwag ar yr Heol Fawr a Stryd Masnach yn cael eu hystyried gan y Cynghorydd John Richards, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Adfywio a Buddsoddi.

Cefnogir y syniadau hyn gan gronfa o £60,000 sydd wedi'i sefydlu i hybu twf economaidd a buddsoddiad yng Nghasnewydd.

Er bod agoriad Friars Walk wedi cael effaith bositif, mae llawer o siopau gwag mewn rhannau eraill o ganol y ddinas sydd angen dod yn ôl i ddefnydd.

Mae'n bosib bod gorbenion, megis rhent ac ardrethi busnes, yn atal masnachwyr llai. Yn anffodus, nid oes gan y Cyngor reolaeth dros y rhenti sy'n cael eu gosod gan landlordiaid preifat na'r ardrethi a osodir gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cynigion posib yn cynnwys:

  • Defnyddio oddeutu £30,000 i gynnig grantiau o hyd at £6,000 i gyfrannu at gostau sefydlu busnes masnachol ar Stryd Masnachol neu'r Heol Fawr
  • Gan weithio mewn partneriaeth gyda Newport Now, mae'r cyngor yn comisiynu cwmni i farchnata rhai o'r unedau mwy, gan dargedu cwmnïau rhyngwladol
  • Digwyddiad busnes un dydd sydd â'r nod o roi cyngor a chymorth i bobl busnes newydd all gael y cyfle i "brofi masnach"
  • Sefydlu digwyddiad Gwobrwyon Busnes Casnewydd i ddathlu llwyddiannau pob busnes yn y ddinas.

Bydd y Cynghorydd Richards yn gwneud penderfyniad ar y cynigion ar ôl ymgynghori gyda'r holl aelodau.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.