Busnesau newydd yn agor ym Marchnad Casnewydd
Wedi ei bostio ar Tuesday 20th December 2016
Mae Marchnad Casnewydd wedi croesawu dau fusnes i'r adeilad hanesyddol yng nghanol Heol Fawr y ddinas.
Bydd Fish Shack, busnes penigamp sy'n cael ei redeg gan deulu sydd â mwy na 50 mlynedd o brofiad, yn masnachu bob dydd Gwener o 9am i 3pm. Mae wedi'i leoli gyferbyn â'r stondin ffrwythau a llysiau sefydledig, Love Fresh.
Mae Rani Manship wedi sefydlu'r Eyebrow Bar sydd ar agor chwe diwrnod yr wythnos ac sy'n cynnig edafu, glanhau wynebau, colur a chwyro'r corff.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae'n wych gweld bod busnesau newydd yn cael eu denu i ganolfan siopa hynaf y ddinas a dymunaf y gorau i Fish Shack a Rani ar gyfer y dyfodol.
"Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid Newport Norse, sy'n rheoli'r farchnad, i hybu a chefnogi ein masnachwyr annibynnol lleol gan ein bod ni eisiau i'n marchnad draddodiadol dyfu a ffynnu. Byddwn yn annog siopwyr i fynd i'r farchnad wrth iddynt ymweld â chanol y ddinas a gweld yr hyn sydd ganddi i'w gynnig."
Mae Fish Shack, Enillydd Cyflenwr Bwyd Môr y Flwyddyn Cymru 2016, ag ymgyrch i ddod â physgod ffres i gymaint o gymunedau â phosibl.
Yn rhan o'r Vin Sullivan Group, mae'n gallu cael amrywiaeth eang o bysgod ffres bob dydd a'i gynnig i'r cyhoedd am bris rhesymol. Mae tîm medrus a chyfeillgar yno i hollti, tynnu croen a diberfeddu'r pysgod.
Dywedodd Tom Rudge, llefarydd ar gyfer y cwmni: "Teimlom fod cymunedau yn yr ardal amgylchynol yn derbyn dewis cyfyngedig neu ddim dewis o gwbl o ran eu pysgod a'u pysgod cregyn ffres.
"Ar ôl i ni ddysgu bod Casnewydd wedi colli ei gwerthwr pysgod yn ddiweddar, teimlom ei fod yn gyfle gwych i gynnig ein busnes yn y ddinas."
I archebu pysgod o flaen llaw neu i ddysgu mwy am eu gwasanaethau e-bostiwch [email protected]; ffoniwch 01495 796617 neu dewch o hyd iddynt ar Facebook.
Mae'r Eyebrow Bar ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 9am i 5pm, a gallwch ffonio 07412 802744 i siarad â nhw.
Roedd Rani'n gweithio yn y diwydiant harddwch ym Mhacistan ers 10 mlynedd cyn symud i'r DU. Dywedodd: "Sefydlon ni ym Marchnad Casnewydd oherwydd ei awyrgylch cynnes a chyfeillgar a'i phoblogrwydd gyda phobl leol. Mae Newport Norse wedi bod yn help mawr i'n helpu i sefydlu ein parlwr."