Newyddion

Menter newydd yn cael help gan gronfa fusnes y Cyngor

Wedi ei bostio ar Tuesday 6th December 2016

Mae dau bartner busnes Casnewydd mentrus yn dathlu agoriad eu lleoliad diweddaraf ar ôl dod y bobl gyntaf i dderbyn math newydd o grant gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Mae Matt Ellis ac Ant Cook, sydd eisoes yn berchen ar y caffi llwyddiannus Parc Pantry ym Malpas ac sy'n rhedeg The Tearooms ym Mharc Belle Vue, bellach wedi symud i Heol Fawr gyda Parc Central.

Gwnaethon nhw gais am grant cymhorthdal siop i helpu gyda chostau rhedeg y busnes yn ystod y flwyddyn gyntaf.

Ym mis Hydref, clustnodwyd cronfa datblygu busnesau o £60,000 ar gyfer nifer o fentrau i ysgogi twf economaidd a buddsoddiad pellach yng nghanol y ddinas.

Bu'n cynnwys grantiau o hyd at £6,000 i helpu i dalu am gostau sefydlu busnes manwerthu yn Commercial Street a Heol Fawr.

Dywedodd y Cynghorydd John Richards, Aelod Cabinet dros Adfywio a Buddsoddiad: "Mae'n wych bod y grant cyntaf wedi'i roi i Parc Central, ac rwy'n siŵr y bydd yn mynd o nerth i nerth.

  "Heb os mae Friars Walk wedi cael effaith gadarnhaol ar ganol y ddinas ac mae busnesau newydd wedi agor o gwmpas y cynllun manwerthu a hamdden newydd, ond mae siopau gwag ar gael o hyd yr hoffem iddynt gael eu defnyddio.

"Rydym yn gwybod y gall costau cyffredinol megis rhent ac ardrethi busnes rwystro manwerthwyr llai ond yn anffodus nid ydym yn rheoli rhent wedi'i osod gan landlordiaid preifat neu lefel yr ardrethi busnes.

  "Mae grantiau'r gronfa datblygu busnesau wedi'u creu i gefnogi mentrau newydd trwy roi cymorth ariannol iddynt er mwyn helpu i dalu costau ar y dechrau, ac i'w helpu i ymsefydlu."

Dywedodd Ant Cook: "Rydym wrth ein boddau o fod yn rhan o'r broses o adfywio Casnewydd a bod yn rhan o'r hyn y gellir ei ystyried yn chwarter annibynnol y ddinas.

  "Rydym wedi edmygu pensaernïaeth hanesyddol Casnewydd ers talwm ac wedi bod yn edrych ar adeiladau amrywiol ar hyd Heol Fawr am y tair blynedd diwethaf.

  "Mae'n anrhydedd enfawr bod y Cyngor yn rhannu'r weledigaeth o botensial y stryd hon ac wedi rhoi arian i ni i helpu i dalu rhent y flwyddyn gyntaf."

Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am grant, cysylltwch â tîm cymorth busnes y cyngor ar 01633 656656 neu e-bostiwch business.services@newport,gov.uk

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.