Newyddion

Lansio ymgyrch mis Mai yng Ngwent i geisio creu cynnydd sylweddol yn nifer y gofalwyr maeth sy'n maethu gyda'u hawdurdod lleol

Wedi ei bostio ar Monday 22nd May 2023

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth 2023 mae pobl ifanc leol ar draws ardal Gwent â phrofiad o ofal yn rhannu eu straeon am faethu er mwyn annog pobl i faethu gyda’u hawdurdod lleol.

Mae Maethu Cymru wedi siarad â phobl ifanc leol â phrofiad o ofal sydd wedi rhannu eu straeon i gefnogi Pythefnos Gofal Maeth. Mae’r ymgyrch yn ceisio annog mwy o bobl i ystyried maethu gyda’u hawdurdod lleol, sy’n wasanaeth dielw, yn hytrach nag asiantaethau maethu masnachol, gan y bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar ddyfodol plant a phobl ifanc sy’n cael eu maethu yn rhanbarth Gwent. Mae hyn yn cynnwys Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

Ledled Gwent mae pob plentyn y mae angen gofalwr maeth arno yn gyfrifoldeb ar ei Awdurdod Lleol. Bydd cynyddu nifer y gofalwyr maeth yng Ngwent yn gymorth i gadw plant yn lleol lle bynnag y bo hynny’n bosibl, ac mae hynny’n gallu bod werth y byd i blentyn neu unigolyn ifanc.

Wrth helpu plentyn i aros yn ei gymuned leol lle bynnag y bo hynny’n bosibl, gall gadw cysylltiad â’i ffrindiau a’i deulu, ei ysgol a’i ymdeimlad o hunaniaeth, ac mae hyn yn meithrin hyder a hefyd yn lleihau’r straen arno. Mae gwasanaethau maethu’r awdurdod lleol yma i aros ac mae hyn yn sicrhau sefydlogrwydd i ofalwyr maeth ac i’r plant sy’n cael gofal. Nid yw hyn yn wir bob tro am asiantaethau maethu masnachol. Fel unrhyw fusnes, mae asiantaethau maethu masnachol yn gallu mynd a dod, neu uno a thrawsnewid, gan greu tipyn o ansicrwydd. Mae Maethu Cymru yn sefydliad dielw hefyd ac rydyn ni yma er mwyn y plant, ac yn sicrhau bod y plant, ac nid yr arian, wrth galon pob penderfyniad.

Thema Pythefnos Gofal Maethu 2023 yw ‘cymunedau sy’n maethu’ ac mae Maethu Cymru eisiau archwilio sut y mae’r gymuned a chael eu maethu’n lleol yn gallu effeithio ar fywydau plant.

Mae Darryl, unigolyn ifanc o Flaenau Gwent â phrofiad o ofal, wedi rhannu ei daith ac mae’n gobeithio ysbrydoli pobl i gefnogi pobl eraill fel ef trwy faethu gyda’u hawdurdod lleol.

Meddai Darryl “Rwy’n 22, a symudais i fyw yng nghartref fy ngofalwyr maeth yn 2008, ac mae pethau wedi bod yn wych ers hynny. Mae maethu wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i fy mywyd. Fyddwn i ddim fel ydw i nawr; byddwn i mewn lle gwael iawn. Diolch i fy ngofalwyr maeth am greu’r dyn yr ydw i heddiw, a dweud y gwir. Ges i amser mor drawmatig pan oeddwn i’n blentyn. Roedd symud i’r fan yma yn newid mor fawr.“

Pan holwyd Darryl pam yr oedd yn ein helpu ni gyda’r ymgyrch, ei ateb oedd,  “Oherwydd ges i fy maethu gan yr awdurdod lleol, ac roedd hynny’n golygu fy mod i wedi gallu aros lle'r oeddwn i’n byw, ac nad oedd yn rhaid i mi symud allan o’r sir lle byddai’n rhaid i mi ddechrau eto. Hefyd, dydyn nhw ddim yma i wneud elw, maen nhw yma i helpu plant mewn angen.”

Amcangyfrifir bod angen recriwtio 550 o ofalwyr a theuluoedd maeth newydd ar draws Cymru bob blwyddyn. Mae hyn er mwyn cadw i fyny â nifer y plant ag angen gofal a chymorth, a chymryd lle gofalwyr sy’n ymddeol neu sy’n rhoi cartref parhaol i blant.   

Roedd Vicky o Dorfaen hefyd wedi cytuno i siarad â ni am ei phrofiadau hi ac meddai “Roeddwn i mewn gofal maeth am tua saith mlynedd, trwy gydol fy arddegau. Mae cael fy maethu wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i fy mywyd. Roedden nhw wedi fy nghroesawu i... penblwyddi, Nadolig, diwrnodau allan, gwyliau. “

Pan holwyd sut yr oedd hi wedi elwa wrth gael ei maethu, meddai “Roedd hi’n braf cael cartref sefydlog, gydag amgylchedd sefydlog lle allwn ni ffynnu a gwireddu fy mhotensial, a dweud y gwir. Rydw i wedi llwyddo i gadw swydd lawn-amser, ac rydw i wedi magu dau o blant hyfryd. Heb y lleoliad maethu hwnnw, dw i ddim yn gwybod lle fyddwn i heddiw.”

Mae yna sawl elfen i faethu gyda’r awdurdod lleol. Mae yna heriau, ond mae yna lond calon o hapusrwydd a boddhad hefyd. Cewch gefnogaeth wych gan eich gweithiwr cymdeithasol, eich tîm maethu a’r gymuned faethu, felly fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun.

Mae maethu gyda’r awdurdod lleol yn hyblyg; gallwch ddechrau’n raddol a meithrin eich hyder trwy faethu ar benwythnosau neu am gyfnodau byr. Gallwch weithio a maethu ar yr un pryd neu faethu’n llawn-amser. Gallwch hefyd helpu pobl ifanc trwy gynnig cymorth dros dro fel y gofalwr maeth a fu’n cefnogi Mesi o Afghanistan.

Meddai Mesi “Rydw i wedi bod yn y Deyrnas Unedig ers pum mlynedd, a phan ddes i yma es i at deulu maethu yn gyntaf. Fues i’n byw gyda hi am dros ddwy flynedd. Pan ddes i i’r Deyrnas Unedig doeddwn i ddim yn gallu siarad gair o Saesneg. Bydden i’n dweud “Helô”, a dyna i gyd. Cefais lawer o gefnogaeth ganddi ac rydw i wedi cadw cysylltiad â hi; cefais alwad ganddi’r wythnos ddiwethaf ac fe holodd hi “Sut mae popeth? Sut mae dy deulu?” Mae hi wedi newid fy mywyd.”

Mae pob plentyn neu unigolyn ifanc yn wahanol, ac yn yr un modd mae’r gofal maeth y mae ei angen arnynt yr un mor wahanol. Nid oes ‘teulu maeth’ nodweddiadol. Waeth a ydych chi’n berchen ar eich cartref neu'n rhentu, yn briod neu’n sengl, beth bynnag fo’ch rhyw, eich cyfeiriadedd rhywiol, eich ethnigrwydd neu’ch ffydd, mae yna bobl ifanc yn eich cymuned leol sydd angen rhywun ar eu hochr.  

Bydd Maethu Cymru yn rhannu cynnwys ar draws rhanbarth Gwent ar sianeli cyfryngau cymdeithasol ei Hawdurdodau Lleol, trwy gydol mis Mai. Mi fydd hefyd ar hyd y lle yn eich cymuned leol i helpu mwy o bobl i ddeall maethu a’r gwahaniaeth y gall ei wneud i fywydau pobl ifanc, ac i werthfawrogi hynny.

Os ydych chi’n credu y gallech chi wneud gwahaniaeth trwy ddod yn ofalwr maeth, ewch i maethucymru.llyw.cymru

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.