Newyddion

Cyngor yn croesawu cyhoeddi strategaeth lled-ddargludyddion Llywodraeth y DU

Wedi ei bostio ar Friday 19th May 2023

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi croesawu cyhoeddi Strategaeth Lled-ddargludyddion Genedlaethol Llywodraeth y DU.

Mae'r strategaeth yn nodi ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi diwydiant lled-ddargludyddion y genedl, gyda gweledigaeth i dyfu'r sector domestig gyda hyd at £1bn o fuddsoddiad wedi'i glustnodi dros y deng mlynedd nesaf.

Mae'r strategaeth hefyd yn nodi cynlluniau i liniaru'r risg o darfu ar y gadwyn gyflenwi a diogelu asedau lled-ddargludyddion y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor a’r aelod cabinet dros dwf economaidd a buddsoddiad strategol: "Mae clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd Casnewydd yn gyflogwr pwysig yn ein dinas a rhanbarth ehangach y de-ddwyrain.

"Ochr yn ochr â'n partneriaid ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru, rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi'r strategaeth hon, ac rydym yn falch eu bod bellach wedi gwneud hynny.

"Gwnaeth cyhoeddi cynllun economaidd a diwydiannol rhanbarthol diwygiedig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ddiweddar atgyfnerthu ein hymrwymiad parhaus i dwf economaidd a arweinir gan arloesedd.

"Mae ein diwydiant lled-ddargludyddion yn ganolog i hyn, nid yn unig ar gyfer y swyddi a'r buddion economaidd y mae'n eu cynnig yn uniongyrchol i'r rhanbarth, ond hefyd ar gyfer y manteision y mae'n eu cynnig i sectorau eraill fel data a seiber, ynni, gweithgynhyrchu ychwanegion a thechnoleg feddygol.

"Mae cyhoeddi'r strategaeth lled-ddargludyddion yn gam cadarnhaol y credwn y bydd yn helpu'r rhanbarth i gynnal mantais strategol a chystadleuol o fewn ein clystyrau diwydiannol, tra hefyd yn helpu i bweru cystadleurwydd byd-eang y DU.

"Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo ei chefnogaeth i ehangu ein clwstwr lled-ddargludyddion. Rydym yn falch o weld Llywodraeth y DU yn gwneud yr un peth nawr, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r ddwy ochr i dyfu un o sectorau pwysicaf ein rhanbarth."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.