Newyddion

Cymorth i ddiwydiant arloesol Casnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 30th March 2023

Mae arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd, wedi croesawu cadarnhad o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ehangu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd Casnewydd. 

Gwnaeth Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ei sylwadau yn dilyn taith fasnach lwyddiannus i Silicon Valley, Califfornia. 

Y llynedd, cafodd un o fusnesau mwyaf nodedig Casnewydd, SPTS Technologies - sy'n rhan o'r grŵp KLA yn yr Unol Daleithiau – ganiatâd cynllunio gan y cyngor i ehangu ei bencadlys yng Nghymru. 

Mae'n adleoli o’i safle presennol oddi ar Ringland Way i leoliad newydd ym Mharc Imperial. 

Dwedodd y Cynghorydd Mudd: "Rwy'n falch bod y gweinidog wedi ailddatgan cefnogaeth i ehangu'r sector bwysig hon a bod ei gynlluniau'n cynnwys diweddaru'r seilwaith ar safle Celtic Lakes a datblygu sgiliau. 

"Rwyf hefyd yn cefnogi ei alwad ar lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i brofi ei hymrwymiad gyda strategaeth wedi'i hariannu'n llawn i wneud y sector yng Nghasnewydd yn arweinydd byd-eang mewn technoleg a ddefnyddir gan bobl ar draws y byd sy'n darparu cannoedd o swyddi o safon uchel. 

"Mae clwstwr lled-ddargludyddion Casnewydd yn ddiwydiant ar gyfer  heddiw ac yfory, a rhaid peidio â’i esgeuluso. Mae'r potensial yn enfawr ac mae'n rhaid ei wireddu, nid yn unig er lles y ddinas a'r rhanbarth ond i Gymru a'r Deyrnas Gyfunol." 

Mae SPTS Technologies, sydd â statws cwmni “angori” Llywodraeth Cymru,  ac sy’n cynhyrchu a gwerthu technoleg y genhedlaeth nesaf ar gyfer y diwydiant lled-ddargludyddion a microelectroneg, wedi'i leoli yng Nghasnewydd ers dros 40 mlynedd. 

Mae'r cynnydd byd-eang yn y galw am ddyfeisiau lled-ddargludyddion wedi helpu’r busnes i dyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ôl ei gwblhau, bydd cyfleuster newydd o’r radd flaenaf y cwmni bron yn dyblu ei ôl troed yng Nghasnewydd, gan ddod â swyddi uwch-dechnoleg, gwerth uchel ychwanegol i'r rhanbarth.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.