CDC yn Cofleidio Tegwch ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023
Wedi ei bostio ar Wednesday 8th March 2023
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn dathlu cyflawniadau menywod, yn codi ymwybyddiaeth am wahaniaethu ac yn annog unigolion a sefydliadau i weithredu i ysgogi cydraddoldeb rhywiol.
Bydd Canolfan Ddinesig Casnewydd yn cael ei oleuo’n biws ddydd Mercher 8 Mawrth i nodi'r digwyddiad sydd eleni'n canolbwyntio ar gofleidio tegwch.
Mae'r geiriau tegwch a chydraddoldeb yn aml yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol. Mae cydraddoldeb yn golygu bod pob unigolyn neu grŵp o bobl yn cael yr un adnoddau neu gyfleoedd. Mae tegwch yn cydnabod bod gan bob person amgylchiadau gwahanol, ac maen nhw'n cael yr un adnoddau a chyfleoedd sydd eu hangen i gyrraedd canlyniad cyfartal.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y cyngor: "Mae menywod wedi cynrychioli canran uchel o weithlu Cyngor Dinas Casnewydd ers tro, ond mae newidiadau mewn polisïau, agwedd a diwylliant wedi arwain at lefel well o gydraddoldeb a thegwch.
"Mae menywod bellach hefyd yn cynrychioli'r mwyafrif ar y lefelau uchaf - yn swyddogion a gwleidyddion - ac rydym wedi annog datblygiad ar bob lefel drwy gydnabod y rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu a sicrhau bod ein polisïau a'n dull gweithredu yn sicrhau cyfleoedd teg i bawb."
Cau’r bwlch cyflog
Mae bwlch cyflog cymedrig (cyfartaledd) Cyngor Dinas Casnewydd wedi gostwng o 4.8 y cant yn 2018 i 0.6 y cant (ar 31 Mawrth 2022).
Mae hyn yn golygu, wrth gymharu tâl fesul awr ar gyfartaledd, bod y gwahaniaeth rhwng dynion a menywod wedi gostwng 4.2 y cant yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
Mae bwlch cyflog cymedrig (cyfartaledd) Cyngor Dinas Casnewydd wedi gostwng o 3 y cant yn 2018 i -0.4 y cant (ar 31 Mawrth 2022).
Mae hyn yn golygu bod bwlch cymedrig y cyngor wedi'i gau, ac mae tâl cymedrig fesul awr menywod 0.4 y cant yn uwch na dynion.
Dywedodd Beverly Owen, Prif Weithredwr Cyngor Dinas Casnewydd: "Rydyn ni wedi cymryd camau cadarnhaol, ond mae mwy i'w wneud eto. Byddwn yn parhau i adolygu a gwella mewn meysydd fel arwain a datblygu'r gweithlu i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i symud ymlaen, tra'n sicrhau bod y gweithlu'n fwy cynrychioliadol o'r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu. Byddwn hefyd yn rhoi cefnogaeth i weithwyr sydd â materion iechyd neu anableddau y gellir eu rheoli i gael mynediad i waith ar bob lefel, a thrwy ymgysylltu â gweithwyr byddwn yn gwrando ar ein staff, gan ddefnyddio eu hadborth i wella cyfleoedd i bawb."
Bydd yr arweinydd a'r prif weithredwr hefyd yn mynd i ddigwyddiad Argus De Cymru lle bydd ugain o fenywod ychwanegol yn cael eu hychwanegu at 'Oriel Anfarwolion Menywod Rhyfeddol Gwent'.
Ychwanegodd y Cynghorydd Mudd: "Roedd yn anrhydedd cael fy nghynnwys yn y rhestr wreiddiol a gyflwynwyd y llynedd, felly bydd dychwelyd eleni a nodi'r achlysur eto gyda grŵp o fenywod haeddiannol yn fraint. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan ohono!
Ffeithiau am Gyngor Dinas Casnewydd
Cynrychiolaeth uwch arweinyddiaeth
• Mae arweinydd, dirprwy arweinydd, prif weithredwr a chyfarwyddwr strategol y gwasanaethau cymdeithasol yn fenywod
• Mae 73 y cant o benaethiaid gwasanaeth yn fenywod
• Mae 56 y cant o aelodau'r cabinet yn fenywod
Canran y merched ym mhob chwarter tâl yn CDC (2022/23)
Mae merched yn meddiannu:
• 69 y cant o'r swyddi chwartel uchaf / cyflog uchaf
• 71 y cant o'r chwartel canol uchaf
• 69 y cant o'r chwartel canol isaf
• 70 y cant o'r swyddi chwartel isaf / cyflog isaf.
#DRhM2023 #CofleidioTegwch