Newyddion

Rhyddhau mwy o fanylion ar gyfer Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru Casnewydd

Wedi ei bostio ar Monday 20th March 2023

Mewn llai na 100 diwrnod, bydd Casnewydd yn cynnal digwyddiad Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog a gellir datgelu mwy o fanylion am y rhaglen erbyn hyn. 

Cynhelir y diwrnod ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin, a bydd y diwrnod yn dechrau am 10am gydag arddangosfeydd milwrol ar hyd glan yr afon rhwng Canolfan Glan yr Afon a champws canol dinas Prifysgol De Cymru. 

Bydd gan sefydliadau fel y Lleng Brydeinig Frenhinol, y Gymdeithas Llynges Frenhinol, Help for Heroes, SSAFA, Newport Veterans Hub, Alabare, Blind Veterans UK, Woodys Lodge, Fighting with Pride, Blesma, Sant Ioan Cymru a GAVO stondinau yn y tu mewn i'r theatr a chanolfan y celfyddydau hefyd. 

Yn yr bore, bydd gorymdaith yng nghanol y ddinas o dan arweiniad Band Catrodol a Chorfflu Drymiau’r Cymry Brenhinol gyda chynrychiolwyr y gwasanaethau arfog a chyn-filwyr o bob cwr o Gymru. 

Bydd llawer mwy yn digwydd yn ystod y dydd gan gynnwys Tîm Arddangos Parasiwt y Tigers Army a fydd yn "galw heibio" rhywle yng nghanol y ddinas. 

Bydd gweithgareddau canol y ddinas yn gorffen am 3pm ond bydd cyngerdd tocynnau am ddim yn Rodney Parade rhwng 4pm a 6pm (manylion archebu i ddilyn).  Bydd Band a Chorfflu Drymiau’r Cymry Brenhinol ymhlith y perfformwyr. 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd:  "Rydym yn benderfynol o'i wneud yn ddiwrnod arbennig iawn i ddangos ein gwerthfawrogiad a'n diolchgarwch i'r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu ein gwlad. 

"Mae rhaglen wych eisoes ar y gweill, y gellir datgelu peth ohoni nawr ond bydd mwy o newyddion cyffrous yn dod dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf cyn y diwrnod mawr ei hun." 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Spencer, hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor:  "Bydd yn ddiwrnod gwych ac rydym yn gobeithio y bydd llawer o aelodau'r lluoedd arfog, eu teuluoedd a chyn-filwyr yn ymuno â ni fel y gallwn ni ddangos iddynt faint mae eu gwasanaeth yn ei olygu i ni a'n cymunedau." 

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn ddigwyddiad partneriaeth rhwng cynghorau, Llywodraeth Cymru, y tri gwasanaeth - y fyddin, y llynges frenhinol a'r awyrlu brenhinol - a phartneriaid eraill. 

Mae'n gyfle i bobl ddangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog gan gynnwys cyn-filwyr, y rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, cadetiaid a'u teuluoedd. 

Gwnaed penderfyniad yn 2021 y byddai'r digwyddiad blynyddol yn teithio i holl ranbarthau Cymru a'r llynedd fe ddigwyddodd yn Wrecsam. 

Bydd Casnewydd yn trosglwyddo'r awenau yn swyddogol i Abertawe, gwesteiwyr y flwyddyn nesaf, cyn i seremoni filwrol ar fachlud haul ddod â digwyddiadau'r diwrnod i ben ar 24 Mehefin. 

Cyhoeddir mwy o westeion a gweithredoedd yn y cyfnod cyn y diwrnod mawr.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.newport.gov.uk/DiwrnodYLluoeddArfog neu dilynwch y cyngor ar Facebook a Twitter.

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.