Cael cyngor arbenigol mewn digwyddiad costau byw
Wedi ei bostio ar Wednesday 22nd March 2023
Mae Cyngor Dinas Casnewydd a sefydliadau eraill unwaith eto yn uno i gynnig cyngor a chefnogaeth i drigolion i ymdopi â’r heriau costau byw.
Gall aelodau o'r cyhoedd alw heibio Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon unrhyw bryd rhwng 10am a 6pm ddydd Mercher 26 Ebrill.
Mae'n dilyn digwyddiad llwyddiannus tebyg fis Tachwedd y llynedd a fynychwyd gan gannoedd o bobl leol.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Rydyn ni'n gwybod bod yr argyfwng costau byw yn dal i gael effaith sylweddol. Efallai bod rhai pobl yn ei chael hi'n anodd ymdopi am y tro cyntaf yn eu bywydau ond mae angen iddyn nhw wybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain a bod help ar gael.
"Bydd y digwyddiad yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn anffurfiol. Mae pobl yn gallu galw heibio i gael sgwrs gyda rhywun neu ddod i edrych o gwmpas."
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, yr Aelod Cabinet dros les cymunedol: "Rydyn ni'n gwybod bod y digwyddiad y llynedd, a digwyddiadau tebyg yn y gymuned, wedi bod yn ddefnyddiol iawn i’r trigolion a fynychodd ac, mewn rhai achosion, cawsant gyngor ariannol buddiol.
"Rydym hefyd yn bwriadu cynnal mwy o ddigwyddiadau yn ein cymunedau lleol."
Yn ogystal â gwybodaeth am y cymorth y mae'r Cyngor yn ei gynnig, bydd cyrff eraill, gan gynnwys y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, Age Cymru Gwent, Cartrefi Melin, Newport Credit Union, Newport Nappy Library – Wastesavers (10am-2pm) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn y digwyddiad i roi cyngor i drigolion.
Bydd hefyd de a choffi am ddim a gweithgareddau i blant.
Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a phwy fydd yno yn cael ei chyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.
Am y newyddion diweddaraf, dilynwch ni ar Twitter a Facebook neu ewch i https://www.newport.gov.uk/cy/Support-and-Advice/Support-and-Advice.aspx lle byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am amrywiaeth o gymorth a chyngor.