Newyddion

Dathlu'r Coroni – partïon stryd a mwy

Wedi ei bostio ar Wednesday 15th March 2023
Coronation 2023 Red-Blue [Small] Welsh

Logo'r Coroni

Bydd pobl ledled y wlad a'r Gymanwlad yn dathlu Coroni Ei Fawrhydi Y Brenin a'i Mawrhydi Y Frenhines Gydweddog dros benwythnos o ddigwyddiadau arbennig.

Bydd Cinio Mawr y Coroni, partïon stryd a diwrnod wedi’i ymroi i achosion da yn dod â chymunedau at ei gilydd.

Cynhelir y Coroni ddydd Sadwrn 6 Mai yn Abaty Westminster a ddydd Sul 7 Mai cynhelir Cyngerdd Coroni yng Nghastell Windsor.

Bydd penwythnos y dathliadau yn dod i ben gyda'r Big Help Out nos Lun 8 Mai - gŵyl y banc arbennig wedi’i chyhoeddi gan y Prif Weinidog i nodi’r Coroni.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y cyngor: "Y llynedd gwelsom rywbeth arbennig iawn, pan ddaeth cynifer o bobl ar draws y ddinas i ysbryd y jiwbilî a dod at ei gilydd i ddathlu.  Roedd yn anhygoel gweld teuluoedd, cymunedau a sefydliadau i gyd yn cael hwyl, a hoffem efelychu hynny eleni i ddathlu coroni'r Brenin.

"Rwy'n falch o gyhoeddi y byddwn unwaith eto yn cefnogi partïon stryd - nid yn unig yr ydym yma i helpu, rydym hefyd yn cynnig talu am rai o'r costau a all fod yn gysylltiedig â chau ffordd. Gwnewch gynlluniau a chyflwyno eich ceisiadau’n gynnar!"

Partïon Stryd

I gefnogi’r Cinio Mawr ddydd Sul, 7 Mai, bydd Cyngor Dinas Casnewydd unwaith eto yn hwyluso partïon stryd lleol fel y gwnaethom ni ar gyfer y Jiwbilî.

Mae canllawiau ar sut i gynllunio parti stryd yn ddiogel ac, os oes angen, wneud cais am gau ffordd, ar gael yma.

Caiff ceisiadau eu hystyried ar sail diogelwch, addasrwydd cau’r ffordd a ffyrdd eraill sydd ar gau yn yr ardal, ond os cânt eu cymeradwyo, bydd y Cyngor yn talu am gost mesurau rheoli traffig priodol angenrheidiol (er enghraifft, arwyddion a chonau hanfodol).

Os nad yw parti stryd yn addas ar gyfer eich ardal neu os nad oes modd cau ffyrdd, mae syniadau eraill hefyd o ran sut y gallwch nodi'r achlysur yn eich cymuned.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau cychwynnol i gau ffyrdd yw 16 Ebrill, 2023. Yn dilyn adolygiad o'r ceisiadau a ddaw i law, gellir cyhoeddi cylch arall o gyflwyno ceisiadau.

Digwyddiadau Eraill

Mae llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar thema’r Coroni yn cael eu cynllunio ar gyfer pob oedran a diddordeb – bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhyddhau yn fuan, felly cadwch lygad am ddiweddariadau.

Os ydych chi'n cynllunio digwyddiad cyhoeddus ar gyfer y Coroni, rhowch wybod i ni a byddwn yn eich ychwanegu at rhestr Be Sy’ Mlaen – cyflwynwch eich digwyddiad yn www.newport.gov.uk/whatson – neu e-bostiwch [email protected]

I gefnogi'r Big Help Out, bydd gennym hefyd fanc o adnoddau gyda gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli lleol, a manylion grwpiau a rhwydweithiau cymorth y gallwch gymryd rhan ynddynt.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.