Cyngor a chymorth gyrfaol yn cael ei gynnig i ddisgyblion ysgol Casnewydd
Wedi ei bostio ar Thursday 16th March 2023
Cynhelir ffair yrfaoedd wythnos o hyd yng Nglan yr Afon ym mis Mawrth eleni lle gall pobl ifanc gael gwybodaeth a chyngor i'w helpu i gynllunio at y dyfodol.
Wedi’i threfnu gan wasanaethau addysg ac ieuenctid Cyngor Dinas Casnewydd, mae ysgolion a phobl ifanc wedi'u gwahodd i gwrdd â darparwyr hyfforddiant lleol, sgwrsio wyneb yn wyneb â chyflogwyr, a siarad â chynghorwyr gyrfaoedd am gyngor a chefnogaeth ar y camau nesaf yn eu haddysg a/neu yrfa.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Deborah Davies: "Mae'r digwyddiad yn gyfle gwych i bobl ifanc, a fydd yn meddwl am beth i'w wneud pan fyddan nhw'n gadael yr ysgol, i gael sgwrs gydag arbenigwyr a chael cyngor ac arweiniad. Diolch i'r holl ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad pwysig hwn."
Bydd Symud ‘Mlaen yn rhedeg yn Theatr Glan yr Afon rhwng 20 a 24 Mawrth, rhwng 9am a 7pm.