Dirwyo adeiladwr am droseddau diogelu defnyddwyr
Wedi ei bostio ar Wednesday 22nd March 2023
Cafodd cwmni adeiladu a'i unig gyfarwyddwr eu dirwyo am gymryd arian gan un o drigolion Casnewydd ond methu â chyflawni unrhyw waith.
Llwyddodd Cyngor Dinas Casnewydd i erlyn Ralsco Ltd a Julius Turko am dair trosedd o dan y Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg.
Cyfaddefodd y cwmni a Turko i fethu â rhoi hawliau canslo i gwsmer; methu â rhoi enw a chyfeiriad y busnes a chymryd taliad o £2,300 ond methu â chyflawni unrhyw waith.
Yn llys ynadon Cwmbrân, cafodd Turko, 48 oed, o Cormorant Way, Dyffryn, ddirwy o gyfanswm o £1,500 a chafodd ei orchymyn i dalu iawndal o £2,300 yn ogystal â chostau o £1,528.
Cafodd Ralsco ddirwy o gyfanswm o £300 a'i orfodi i dalu gordal dioddefwr o £34.
Cafodd yr achos ei ddwyn gerbron y llys yn dilyn ymchwiliad gan dîm safonau masnach y cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd James Clarke, aelod cabinet y cyngor dros gynllunio strategol, tai a rheoleiddio: "Mae'n gwbl annerbyniol i fasnachwyr ymddwyn fel hyn, yn enwedig wrth gymryd arian am waith sydd wedyn ddim yn cael ei wneud.
"Yn ffodus, mae'r mwyafrif o fusnesau yn ddibynadwy ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu defnyddwyr, ond rwy'n gobeithio bod yr achos hwn yn anfon neges y bydd ein tîm safonau masnach ymroddedig yn gweithredu yn erbyn y rhai sy'n ceisio manteisio ar gwsmeriaid."