Newyddion

Teyrnged i'r cyn-gynghorydd David Hando BEM

Wedi ei bostio ar Tuesday 17th January 2023

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd:  "Roeddwn yn drist iawn o glywed am farwolaeth David ac rwy’n cydymdeimlo’n fawr gyda'i deulu a'i ffrindiau. 

"Fel cynghorydd dros Beechwood, gwasanaethodd y cyngor a'r ddinas gydag ymrwymiad ac ymroddiad a daeth yn aelod cabinet yn 2008. 

"Ond mae'n debyg y bydd yn cael ei gofio orau am ei rôl ganolog yn 'achub' Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd ar ôl i'r clwb fynd i fethdaliad, a sicrhau goroesiad Yr Alltudion fel bod gennym y tîm rydym yn ei gefnogi heddiw. 

"Roedd hefyd yn un o hoelion wyth Cyfeillion Pont Gludo Casnewydd a gweithiodd yn anhygoel o galed i hyrwyddo a diogelu'r tirnod poblogaidd hwn. 

"Bydd pawb oedd yn adnabod David yn gweld ei eisiau’n fawr, gan gynnwys ei gyn-gydweithwyr, ffrindiau a swyddogion yn y cyngor."

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.