Newyddion

Prosiect Llong Casnewydd yn cyrraedd carreg filltir arall wrth i gadwraeth y coed ddod i'w therfyn

Wedi ei bostio ar Friday 20th January 2023

Mae prosiect Llong Ganoloesol Casnewydd wedi cyrraedd ei garreg filltir ddiweddaraf ar ôl i'r gwaith cadwraeth ar goed y llong gael ei orffen yr wythnos hon.

Derbyniodd y prosiect, a arweinir gan y Cyngor a’i bartneriaid - Cyfeillion Llong Casnewydd - y darnau olaf o goed gan y contractwr cadwraeth arbenigol, Mary Rose Archaeological Services.

Darganfuwyd y llong o’r bymthegfed ganrif ar lannau Afon Wysg yn 2002 yn ystod y gwaith o adeiladu Theatr Glan yr Afon.

Cafodd coed y llong eu datgymalu a'u codi allan o  wely ar ochr yr afon fesul darn, gyda’r gwaith yn gorffen yng ngwanwyn 2003.

Cam nesaf y prosiect fydd dechrau’r gwaith cymhleth o roi darnau coed y llong sydd wedi’u sychu, yn ôl at ei gilydd. Galwyd y gwaith yn un o bosau jig-so 3D mwyaf y byd.

Bydd y Cyngor hefyd yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb i ddod o hyd i gartref parhaol i'r llong.

Oherwydd maint y llong a chymhlethdod y broses o’i rhoi yn ôl at ei gilydd ni ellir ei chartrefu yn y warws neu'r amgueddfa a'r oriel gelf bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd – arweinydd y Cyngor a’r aelod cabinet dros dwf economaidd a buddsoddiad strategol: "Rydw i wrth fy modd bod cam diweddaraf y prosiect i warchod ac ailadeiladu Llong Ganoloesol Casnewydd wedi cael ei gwblhau'n llwyddiannus.

"Mae'r Llong yn ddarn sylweddol o hanes Casnewydd, wedi'i hachub gan rym cyfunol ein trigolion, y gymuned archeolegol, a phartneriaid y prosiect.

"Mae gan Gasnewydd gymaint i'w gynnig, ac rydym am ddathlu ein hanes a'n diwylliant a sicrhau eu bod yn cael eu cadw er mwyn i genedlaethau'r dyfodol wybod ein stori."

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y llong, ac i gael gwybod mwy am ddigwyddiadau sydd i ddod,  dilynwch sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor a Chyfeillion Llong Casnewydd neu ewch i www.newport.gov.uk/heritage/cy/Homepage.aspx a www.newportship.org.

Mae Canolfan Llong Casnewydd ar gau am y gaeaf, ond fe fydd yn ailagor i'r cyhoedd o ddydd Gwener 31 Mawrth.

Mae arteffactau o'r Llong hefyd ar gael i'w gweld yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, fydd yn ailagor i'r cyhoedd yn gynnar ym mis Mawrth ar ôl gwaith adeiladu.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.