Newyddion

Bloc addysgu newydd yr ysgol uwchradd wedi'i gwblhau

Wedi ei bostio ar Wednesday 1st February 2023

Mae disgyblion a staff yr unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd yn mwynhau cyfleusterau newydd gwych yn dilyn buddsoddiad o fwy na £18 miliwn. 

Agorwyd bloc addysgu newydd yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn gynharach y mis hwn, yn gynharach na'r dyddiad cwblhau disgwyliedig yn ystod y Pasg. 

Dyma'r prosiect cyntaf i'w gwblhau yn y ddinas fel rhan o raglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu Band B Llywodraeth Cymru (Ysgolion yr 21ain Ganrif gynt). 

Yn ogystal â mannau addysgu, bydd hefyd yn darparu cyfleusterau bwyta a gwasanaethau ysgol gyfan.  Mae gan yr ysgol hefyd gae chwaraeon pob tywydd newydd dan lifoleuadau. 

Agorodd Ysgol Gyfun Gwent Is Coed ym mis Medi 2016 gan symud i'w chartref parhaol yn Duffryn Way yn 2018 ar ôl cwblhau'r bloc addysgu cyntaf, a gyflwynwyd o dan Fand A o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. 

Roedd y bloc hwn yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, labordai gwyddoniaeth, ystafelloedd cerdd, llyfrgell ac ystafell ddrama. 

Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg yng Nghyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Deborah Davies: "Mae'r adeilad modern, addas at y diben hwn wedi disodli adeilad o'r 1950au nad oedd mewn cyflwr da. 

"Yn ogystal â darparu amgylchedd dysgu rhagorol, mae'n cynnig llefydd llawer gwell i'r holl ddisgyblion gwrdd ar gyfer gwasanaethau ac i fwyta cinio. Rydw i wrth fy modd gyda'r adeilad newydd a’r ffaith ei fod wedi'i gwblhau'n gynnar. 

"Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yw ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf y ddinas, sy'n gwasanaethu'r ddinas a de-orllewin Sir Fynwy, ac mae'n mynd o nerth i nerth. 

"Mae'r cyngor wedi ymrwymo i dyfu addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd, fel y nodir yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, ac mae Ysgol Gyfun Is Coed yn hollbwysig i'n huchelgeisiau." 

Dywedodd y pennaeth, Eirian Jones:  "Rydym mor falch o'r gofod y mae'r bloc newydd hwn yn ei ddarparu gyda ffreutur addas at y diben a neuadd wasanaeth.   Bydd yr amgylchedd newydd ardderchog hwn yn rhoi'r cyfle gorau posibl i'n dysgwyr lwyddo drwy gyfrwng y Gymraeg."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.