Newyddion

Cam nesaf ar gyfer adeilad ysgol newydd

Wedi ei bostio ar Monday 13th February 2023

Mae ymgynghoriad cyn cynllunio ar gyfer bloc Cyfnod Allweddol 2 (iau) newydd Ysgol Gynradd Sant Andrew yn cael ei lansio heddiw. 

Bydd yr adeilad trillawr arfaethedig yn cynnig amgylchedd addysgu rhagorol lle gall disgyblion ffynnu a mwynhau dysgu. 

Gall aelodau o'r cyhoedd ac ymgyngoreion arbenigol roi eu barn ar y cynlluniau a fydd yn cael eu cynnwys fel rhan o'r cais cynllunio sydd i fod i gael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni. 

Wedi cyfnod arall o ymgynghori, bydd y cais yn cael ei ystyried gan bwyllgor cynllunio llawn Cyngor Dinas Casnewydd. 

Cafodd adeilad Cyfnod Allweddol 2 ar safle Sant Andrew yn Llyswyry ei gau oherwydd problemau adeileddol sylweddol, gan gynnwys diffygion cymhleth i’r sylfeini, a chafodd ei ddymchwel y llynedd. 

Mae disgyblion a staff iau wedi'u hadleoli yn adeilad Connect Casnewydd Fyw lle mae'r dysgu wedi parhau mewn amgylchedd diogel a dymunol. Mae plant iau wedi parhau ar y safle gan nad oedd hyn wedi effeithio ar adeiladau eraill. 

Mae rhieni wedi derbyn manylion yr ymgynghoriad a bydd mwy o wybodaeth am y gwaith adeiladu ar gael yn dilyn penodi'r prif gontractwr. 

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 13 Mawrth ac mae rhagor o wybodaeth yn www.kewplanning.co.uk/consultations

Bydd copïau caled o'r dogfennau hefyd ar gael i weld yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Godfrey, NP20 4UR, Llun-Gwener, 8.30am-5.30pm, tan 13 Mawrth.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.