Newyddion

Casnewydd yn saliwtio'r lluoedd arfog

Wedi ei bostio ar Tuesday 21st February 2023

Mae Casnewydd yn falch iawn o gynnal Diwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog blynyddol Cymru ddydd Sadwrn 24 Mehefin. 

Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn gyfle i bobl ddangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog gan gynnwys cyn-filwyr, y rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, cadetiaid a'u teuluoedd. 

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn ddigwyddiad partneriaeth rhwng cynghorau, Llywodraeth Cymru, y tri gwasanaeth - y fyddin, y llynges frenhinol a'r awyrlu brenhinol - a phartneriaid eraill. 

Gwnaed penderfyniad yn 2021 y byddai'r digwyddiad blynyddol yn teithio i holl ranbarthau Cymru a'r llynedd fe ddigwyddodd yn Wrecsam. 

Tro Casnewydd yw hi eleni i gynnal y diwrnod mawreddog hwn, ac mae'n argoeli’n dda. Bydd yn cynnwys gorymdaith drwy strydoedd canol y ddinas, arddangosiadau cyffrous a chyngerdd. 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd:  "Mae'n anrhydedd i ni gynnal diwrnod mor arbennig a fydd yn rhoi’r cyfle i'r cyngor a'r cyhoedd ddweud diolch i bawb sydd wedi gwasanaethu, neu sydd yn gwasanaethu. 

"Mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych i'r teulu i gyd gyda gwesteion arbennig yn cynnig digon o gyffro. 

"Bydd mwy yn cael ei ddatgelu dros y misoedd nesaf ond mae rhaglen wych yn cael ei chynllunio ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog - Casnewydd ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu milwyr, cyn-filwyr, trigolion ac ymwelwyr i'r ddinas." 

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf yn www.newport.gov.uk/DiwrnodYLluoeddArfog neu dilynwch y cyngor ar Facebook a Twitter.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.