Newyddion

Pennod newydd i adeilad y cyngor

Wedi ei bostio ar Monday 20th February 2023

Bydd y Llyfrgell Ganolog, Amgueddfa ac Oriel Gelf yn Sgwâr John Frost yn ailagor i'r cyhoedd ddiwedd y mis hwn. 

Bydd rhai o wasanaethau'r cyngor hefyd yn gweithredu o'r adeilad yn dilyn rhaglen bwysig o waith a ariennir gan grant Llywodraeth Cymru sydd wedi digwydd dros y misoedd diwethaf. 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd:  "Bydd modd i drigolion ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau cyngor mewn lleoliad llawer mwy hygyrch yng nghanol y ddinas, yn agos at yr orsaf fysus a'r meysydd parcio. 

"Mae'n gwneud defnydd llawer gwell o adeilad sy'n eiddo i'r cyngor ac mae'r gwaith o ddarparu ar gyfer gwasanaethau ychwanegol wedi cynnwys ystafelloedd newydd lle gellir cynnal cyfarfodydd gyda thrigolion mewn amgylchoedd cyfforddus a chyfrinachol. 

"Mae cyntedd llawer mwy disglair a chroesawgar wedi ei greu. Rwy'n falch hefyd bod Urban Circle wedi ennill arian i greu gwaith celf unigryw yn yr adeilad ac rwy'n edrych ymlaen at weld hynny'n cymryd siâp dros yr wythnosau nesaf." 

Bydd timau wyneb yn wyneb o wasanaethau cwsmeriaid, tai a phenodeiaethau yn cael eu lleoli yn Sgwâr John Frost o ddydd Llun 27 Chwefror. 

Gwiriwch isod am y diwrnodau ac amseroedd gweithredu arferol ar gyfer pob gwasanaeth. Bydd gwasanaethau cwsmeriaid ar agor am dridiau'r wythnos i ddechrau ond gydag amseroedd agor gwahanol fydd yn cynnig mwy o gyfleustod i drigolion. 

Bydd gwasanaethau eraill hefyd yn defnyddio'r adeilad ond ar sail apwyntiad yn unig. 

Wrth i'r llyfrgell ailagor yn Sgwâr John Frost ar 28 Chwefror, bydd y llyfrgell dros dro yn Kingsway gerllaw yn cau ddydd Sadwrn 25 Chwefror. 

Bydd ymwelwyr â'r llyfrgell, yr amgueddfa a'r oriel gelf boblogaidd yn gweld eu bod yn dal i edrych yn gyfarwydd, ond mae adran astudiaethau lleol gwell wedi'i chreu ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn hanes lleol a choed teulu. 

Mae'r amgueddfa hefyd yn cynnal arddangosfa wych sy'n dogfennu etifeddiaeth gerddorol gyfoethog Casnewydd dros 40 blynedd. 

Wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae Winding Snake Productions wedi arwain prosiect hanes cymdeithasol sy'n dathlu bandiau, gigiau, a lleoliadau a ddiddanodd genedlaethau o bobl Casnewydd yn y nos. Ewch i www.rockcollecting.co.uk am fwy o wybodaeth.

 

ORIAU AGOR

Y Llyfrgell Ganolog: Dydd Mawrth - dydd Gwener 9am -5:30pm. Dydd Sadwrn 9am - 4pm

Amgueddfa, Oriel Gelf ac Astudiaethau Lleol: Dydd Mawrth - dydd Gwener 9:30am - 8pm. Dydd Sadwrn 9.30am – 4pm

Gwasanaethau Cwsmeriaid  Dydd Llun 10am-4pm; dydd Mercher 12pm-6pm; dydd Gwener 8am-2pm.

Tai:  Dydd Llun - dydd Gwener, 9am-1pm a 2pm-5pm

Penodeiaeth: Dydd Llun a dydd Gwener 10am-1pm a 2pm-5pm

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.