Y ddirwy uchaf i fusnes am godi posteri'n anghyfreithlon ar ôl troseddau ailadroddus
Wedi ei bostio ar Friday 3rd February 2023
Mae busnes o Gwmbrân wedi cael gorchymyn i dalu dros £3,000 mewn dirwyon a chostau ar ôl ei gael yn euog o droseddau codi posteri'n anghyfreithlon dro ar ôl tro.
Cafodd Mabe’s Guttering and Cleaning Services eu herlyn gan y cyngor ar ôl cyflawni 28 o droseddau codi posteri’n anghyfreithlon dros gyfnod o bum mis.
Fe ddigwyddodd y troseddau ledled Casnewydd gan ddigwydd er gwaetha'r ffaith bod y cyngor wedi rhoi sawl rhybudd i'r busnes.
Cafwyd perchennog y busnes, Kyle Mabe, 35, yn euog yn ei absenoldeb yn llys ynadon Casnewydd o 28 achos o dorri Deddf Priffyrdd 1980, drwy adael marc heb ganiatâd ar briffordd.
Cafodd Mr Mabe ddirwy o £2,500, yr uchafswm a ganiateir ar gyfer troseddau o'r fath. Cafodd hefyd orchymyn i dalu £363.63 mewn costau, a gordaliad llys gwerth £181.
Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey – Yr aelod cabinet dros newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth: "Rwy'n falch iawn bod y llys wedi dyfarnu o'n plaid ac wedi gosod y ddirwy uchaf a ganiateir yn yr achos hwn.
"Efallai bod codi posteri’n anghyfreithlon yn ymddangos fel peth dibwys, ond mae'n drosedd, a byddwn yn gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n ei gyflawni dro ar ôl tro.
"Gobeithio y bydd maint y ddirwy a gyhoeddwyd yn rhwystr i eraill i beidio â chymryd rhan mewn codi posteri’n anghyfreithlon, a hefyd i beidio ag anwybyddu rhybuddion yr ydym yn eu hanfon allan.
"Rydyn ni wastad yn hapus i weithio gyda busnesau, ac mae gennym nifer o sianeli ar gael iddyn nhw hysbysebu eu gwasanaethau, gan gynnwys Materion Casnewydd a noddi cylchfannau. Byddwn i'n cynghori unrhyw fusnes sydd yn chwilio am gefnogaeth i gysylltu."