Llty Bryw Dros Nos
Wedi ei bostio ar Thursday 23rd February 2023
Mae cymorth brys yn cael ei roi i bobl sy'n cysgu yn yr awyr agored yn ystod y tywydd oer presennol.
Mae'n bosibl y bydd tîm Pobl sy’n Cysgu ar y Stryd Cyngor Dinas Casnewydd, ynghyd â'i bartneriaid, Horizon, y Wallich, Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GCAG), Eden Gate a Tŷ yn Gyntaf, yn gallu cynnig lle cynnes dros nos dros dro.
Os ydych yn cysgu yn yr awyr agored yng Nghasnewydd yn ystod y tywydd oer presennol ac yn gweithio gydag un o'r partneriaid hyn, cysylltwch â nhw am gymorth a chyngor.
Os nad ydych chi'n gweithio gydag un o'r gwasanaethau yma, gallwch hefyd gysylltu â nhw am gymorth a chyngor ar un o'r rhifau canlynol:
- Cyngor Dinas Casnewydd – 01633 656656
- Horizon (Cymorth i Fenywod Cyfannol) - 03300 564456
- The Wallich – 01633 251577 (9am-5pm)
- Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GCAG) – 01633 245890 (9am-5pm)
- Eden Gate – 01633 243235 (9am-5pm)
I'r rhai a allai fod yn bryderus am unrhyw un sy'n cysgu allan yn ystod y tywydd oer, gallwch roi gwybod am eu manylion drwy ap Street link neu drwy gysylltu â'r cyngor ar 01633 656656.
Mae Byddin yr Iachawdwriaeth hefyd yn chwilio am roddion o fagiau cysgu, duvets, pethau ymolchi a bwydydd nad ydynt yn ddarfodus. Gellir mynd â rhain i Fyddin yr Iachawdwriaeth, 1 Hill Street Casnewydd. NP20 1LZ a bydd yn cael ei ddosbarthu i'r rhai sydd mewn angen.