Newyddion

£5m i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau allweddol i Gasnewydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 15th February 2023

Mae Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi cytuno sut y bydd yn gwario'i gyllideb ar gyfer 2023-24.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar nifer o gynigion ac roedd yr ymateb gan y cyhoedd yn rhagorol, gyda miloedd o ymatebion wedi eu derbyn.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd y Cyngor: "Rydym wedi addo bod yn Gyngor sy’n gwrando ac roeddwn wrth fy modd gyda'r ymateb eleni. Mae wedi bod yn un o'r cyllidebau mwyaf heriol 'da ni wedi gorfod ei phennu yn y blynyddoedd diwethaf, ac roedd yn hanfodol bwysig bod pawb yn cael cyfle i gyfrannu. Cafodd pob ymateb ei adolygu a'i ystyried cyn i ni wneud ein penderfyniadau terfynol."

Ers cyhoeddi'r gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, mae nifer o newidiadau a diweddariadau yn cynnwys setliad positif gan Lywodraeth Cymru, llai o bwysau ar wasanaethau, arbedion ychwanegol a chadarnhad o gyllid grant arall wedi golygu bod y Cabinet wedi gallu dyrannu £2.5m yn ychwanegol.

Penderfynwyd hefyd i addasu cronfeydd wrth gefn y Cyngor at ddibenion gwahanol, gan olygu buddsoddiad ychwanegol cyffredinol o £5m yn 2023/24.

Ychwanegodd y Cynghorydd Mudd: "Rydym yn falch iawn o allu buddsoddi yn rhai o'r meysydd y teimlai ein trigolion mai nhw oedd bwysicaf. Bydd y penderfyniadau a wneir gan y Cabinet heddiw yn golygu y gall gwasanaethau allweddol barhau, ni fydd yn rhaid gwneud rhai toriadau a bydd gwasanaethau eraill yn cael amser a chyfle ychwanegol i ystyried sut y gallwn eu newid a’u  darparu’n fwy effeithlon yn y dyfodol."

Gan ystyried barn preswylwyr am ba wasanaethau sydd bwysicaf iddyn nhw, wedi'u cydbwyso â bwlch heriol rhwng yr arian sydd ar gael a chostau cynyddol darparu gwasanaethau, dyma rai o'r prif benderfyniadau y mae'r Cabinet wedi cytuno arnynt:

Treth Gyngor

Bydd cynnydd treth gyngor Casnewydd bellach yn 8.5% yn hytrach na'r hyn a gynigiwyd sef 9.5%. Roedd y Cabinet wedi cydnabod bod hwn yn fil sylweddol i aelwydydd Casnewydd ond roedden nhw'n falch bod ymatebion i'r ymgynghoriad yn cydnabod sefyllfa’r Cyngor, nad oedd modd osgoi'r cynnydd ac y byddai’n galluogi gwasanaethau i gael eu gwarchod.

I fandiau A i C, sef y rhai mwyaf cyffredin yng Nghasnewydd, mae hyn gyfystyr â chynnydd o rhwng £1.39 a £1.85 yr wythnos.  Hyd yn oed gyda'r cynnydd yma, mae disgwyl mai gan Gasnewydd y bydd un o'r cyfraddau treth gyngor isaf yng Nghymru.

Bydd y cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor nawr yn mynd gerbron y Cyngor llawn ddydd Mawrth 28 Chwefror.

Buddsoddi mewn ysgolion

Yn y gyllideb ddrafft, roedd cyllid i ysgolion eisoes wedi cynyddu yn nhermau arian go iawn, ond roedd heriau'n dal i fodoli gan gynnwys cynyddu niferoedd disgyblion, pwysau yn gysylltiedig â chyflogau a chostau cynyddol - felly mae £2.8m ychwanegol wedi'i ddyrannu i helpu ymhellach, ac wedi cynyddu'r buddsoddiad cyffredinol i £9m.

Gwasanaethau i'n rhai mwyaf bregus

Mae dros chwarter cyllideb y Cyngor yn cael ei wario ar ofal cymdeithasol - roeddech chi eisiau i ni flaenoriaethu gwasanaethau sy'n helpu ein preswylwyr mwyaf agored i niwed, felly rydym wedi buddsoddi bron £1m mewn gwasanaethau cymorth allweddol i oedolion a phlant.

Mae hyn yn cynnwys cynnal y ddarpariaeth seibiant byr yng nghartref seibiant a gofal preswyl Oaklands, a lleihau'r arbedion sydd eu hangen o fewn cyfleoedd dydd i oedolion, a elwir hefyd yn wasanaeth seibiant byr yn Spring Gardens.  Bydd arian ychwanegol hefyd yn caniatáu i wasanaethau ychwanegol barhau yn Spring Gardens  tra bod adolygiad pellach yn cael ei gynnal gyda'r nod o osod y gwasanaeth ar sail gryfach a gweithio'n fwy effeithlon yn y dyfodol.

Mae cynigion eraill a ddilëwyd gan y Cabinet yn cynnwys codi ffioedd parcio mewn lleoliadau cefn gwlad (Glebelands, man gwylio Christchurch, Pwll Morgan a Lôn Betws) a thaliadau am finiau gwastraff gweddilliol newydd.

Drwy ail-gyfeirio cronfeydd wrth gefn, bydd y Cyngor hefyd yn darparu cymorth dros dro i'r darparwr gwasanaeth iechyd meddwl Growing Space am y ddwy flynedd nesaf.

Bydd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) hefyd yn derbyn cymorth dros dro gyda’r arbediad arfaethedig ar gyfraniad blynyddol y Cyngor yn cael ei ohirio’n rhannol.

Bydd hyn yn caniatáu i adolygiadau a newidiadau i wasanaethau i ddigwydd a fydd yn darparu gwasanaethau gwell a mwy cynaliadwy yn y dyfodol.

Bydd buddsoddiad un tro hefyd yng nghanol y ddinas i sicrhau cefnogaeth barhaus i fusnesau ac adferiad wedi'r pandemig. Bydd hyn yn cynnwys cymorth ardrethi busnes i fusnesau cymwys yng nghanol y ddinas yn 2023/24. 

Mae canlyniadau llawn yr ymgynghoriad ar y gyllideb, gwybodaeth ar ble mae arian y Cyngor yn dod ohono a sut mae arian yn cael ei wario ar gael yn www.newport.gov.uk/cyllideb

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.