Newyddion

Trigolion yn cael eu hannog i ddarganfod sut y gall technoleg gynorthwyol gefnogi byw'n annibynnol mewn Hyb Clyfar newydd yng nghanol y ddinas

Wedi ei bostio ar Wednesday 26th April 2023

Agorwyd hyb newydd yng nghanol y ddinas a fydd yn arddangos y diweddaraf mewn technoleg gynorthwyol yr wythnos hwn ym Marchnad Casnewydd.

Bydd ymwelwyr â Hyb Clyfar y cyngor yn gallu dysgu am dechnoleg gynorthwyol newydd ac sydd ar gael a sut y gall helpu i gefnogi pobl i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol gartref.

Mae'r hyb hefyd yn fan lle bydd trigolion yn gallu siarad ag aelodau o dîm therapi galwedigaethol y cyngor a chael cyngor ynghylch defnyddio'r dechnoleg wahanol.

Mae'r dechnoleg sydd ar gael i'w gweld yn cynnwys y Komp, technoleg gynorthwyol sy'n dda i bobl hŷn sy'n galluogi pobl oedrannus i gysylltu â'r rhai sydd bwysicaf i'w hiechyd a'u lles.  Mae Komp yn haws i'w defnyddio nag unrhyw lechen neu ffôn clyfar, a does dim angen unrhyw sgiliau na hyfforddiant digidol.

Mae technolegau clyfar eraill sy'n cael eu harddangos yn cynnwys Amazon Alexa, clychau drysau Ring a systemau gwresogi Hive, yn ogystal â systemau teleofal ac amryw synwyryddion symudiadau neu gwympiadau.

Yn agoriad yr hyb, dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor: "Mae yna lawer o ffyrdd y gall technoleg helpu'r rhai sydd ag anghenion gofal a chymorth, o helpu i'w cysylltu ag anwyliaid, i dasgau bob dydd fel troi goleuadau a gwres ymlaen ac i ffwrdd.

"Mae'n bwysig i ni fel cyngor sicrhau bod ein trigolion yn gwybod am y cyfleoedd a gynigir gan y gwahanol dechnolegau, yn ogystal â sut y gallwn eu cefnogi i'w defnyddio.

"Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy i ddod i'r hyb newydd a gweld pa gymorth sydd ar gael."

Mae'r Hyb Clyfar wedi'i leoli ar lawr cyntaf Marchnad Casnewydd, yn ystafell 1.6. Mae mynediad hygyrch i'r hyb ar gael drwy'r lifftiau yn y farchnad.

Mae'r hyb yn gweithredu ar sail apwyntiadau’n unig ar hyn o bryd. Mae modd trefnu apwyntiadau i ymweld â'r hyb trwy ffonio 01633 656656 a gofyn am y tîm therapi galwedigaethol, neu drwy e-bostio [email protected]

Gellir darparu llawer o'r dechnoleg sy'n cael ei harddangos yn yr hyb i drigolion gan y cyngor, er y bydd rhai meini prawf cymhwysedd yn berthnasol. Mae mwy o wybodaeth am yr hyn y gellir ac na ellir ei ddarparu drwy’r cyngor ar gael yn yr hyb.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.