Newyddion

Cydnabod gwaith coed Casnewydd â statws rhyngwladol mawr

Wedi ei bostio ar Friday 21st April 2023

Mae gwaith coed Cyngor Dinas Casnewydd wedi cael ei gydnabod gyda gwobr ryngwladol fawr.

Mae Casnewydd wedi derbyn statws Dinas Coed y Byd, rhaglen sy'n cael ei rhedeg gan Sefydliad Arbor Day a Sefydliad Bwyd ac Amaethyddol (FAO) y Cenhedloedd Unedig.

Mae'r rhaglen yn ymdrech ryngwladol i gydnabod dinasoedd a threfi sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod eu coedwigoedd a'u coed trefol yn cael eu cynnal a'u cadw'n briodol, eu rheoli'n gynaliadwy, a'u dathlu'n briodol.

Cafodd 168 o ddinasoedd a threfi o 21 o wledydd eu cydnabod yn 2022, gyda Chasnewydd yn un o dros 50 dinas a enillodd y gydnabyddiaeth am y tro cyntaf.

Cafodd y cyngor ei gydnabod am ei reolaeth o stoc coed y ddinas. Mae hyn yn cynnwys cael polisïau ar waith ar gyfer cynnal coed, yn ogystal â'i waith yn rheoli effaith clefyd coed ynn, sydd wedi effeithio ar goed mewn nifer o safleoedd yn y ddinas.

Mae unrhyw goeden sydd wedi cael ei heffeithio gan glefyd coed ynn wedi cael ei gwaredu gan y cyngor, gydag o leiaf ddwy goeden newydd wedi'u plannu yn lle pob coeden a waredwyd.

Cafodd y cyngor hefyd ei gydnabod am ei seremonïau plannu canopi gwyrdd nôl ym mis Mawrth 2022. Gwahoddwyd pob ysgol yn y ddinas i blannu coeden fel rhan o ddathliadau'r jiwbilî platinwm ar gyfer y Frenhines Elizabeth II, gyda seremonïau arbennig yn cael eu cynnal mewn pum ysgol.

Cafodd rhodfa o goed eu plannu ym Mharc Tredegar hefyd, gydag 80 o goed yn cael eu gosod ochr yn ochr â'r llwybr teithio llesol sy'n rhedeg drwy'r parc.

Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey – Yr aelod cabinet dros newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth:  "Rwy'n falch iawn bod ein gwaith coed wedi cael ei gydnabod ar lefel ryngwladol.

"Rydym yn cydnabod y manteision y gall coed eu cyflwyno i Gasnewydd, o ran gwell ansawdd amgylcheddol a lleihau carbon a dal.

"Bydd cael mynediad at rwydwaith byd-eang o ddinasoedd tebyg, a all rannu gwybodaeth ac arferion gorau, yn gaffaeliad mawr wrth ein helpu i reoli a chynyddu ein coed a'n coetir mewn ffordd gynaliadwy, un o'r blaenoriaethau a nodir yn ein cynllun sefydliadol ar newid hinsawdd."

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y cyngor: "Mae'n bwysig ein bod yn dathlu'r buddion y mae coed a mannau gwyrdd yn eu cynnig i'n dinas.

"Roedd ein dathliadau jiwbilî yn gyfle gwych i wneud hyn. Roedd yn arbennig o wych gweld cynifer o blant ysgol yn cymryd rhan yn y gwaith plannu coed.

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi cael ein cydnabod gyda'r statws hwn, a fydd yn caniatáu i ni adeiladu ar y gwaith da yr ydym wedi'i wneud hyd yma wrth adeiladu Casnewydd wyrddach ac iachach i bawb."

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, ewch i https://treecitiesoftheworld.org/.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.