Newyddion

Tynnu Ysgol Uwchradd Casnewydd o fesurau arbennig

Wedi ei bostio ar Thursday 27th April 2023

Yn dilyn ymweliad arolwg monitro Estyn diweddar, penderfynwyd atal mesurau arbennig yn Ysgol Uwchradd Casnewydd. 

Mae Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, wedi cadarnhau bod yr ysgol wedi gwneud cynnydd digonol ac nad oes angen y lefel hon o ymyrraeth mwyach. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y cyngor: "Mae'r penderfyniad hwn yn dyst i waith caled ac ymroddiad y pennaeth, staff a'r corff llywodraethu.  Rwy'n falch iawn o weld bod Estyn wedi cydnabod y camau mawr a wnaed gan yr ysgol ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n parhau. Llongyfarchiadau i bawb dan sylw." 

Dywedodd y Pennaeth Gill Lee:  "Rydym mor falch bod Estyn wedi penderfynu bod cynnydd gan yr ysgol yn golygu bod modd tynnu’r mesurau arbennig. Nid oherwydd y gwaith a wnaed gan ambell un, mae'n gyflawniad gan y gymuned ysgol gyfan ac rydym yn benderfynol o wella a gwella." 

Dywedodd aelod cabinet dros addysg y Cyngor, y Cynghorydd Deb Davies: "Mae hyn yn newyddion gwych a hoffwn ddiolch i'r pennaeth, y staff a'r corff llywodraethu am eu gwaith i godi safonau er budd pob disgybl. 

"Erbyn hyn nid oes gan Gasnewydd unrhyw ysgolion dan fesurau arbennig a bydd y cyngor yn parhau i gefnogi ei ysgolion i wella'n barhaus i sicrhau bod plant y ddinas yn cael yr addysg orau bosibl." 

Ychwanegodd y Cynghorydd James Clarke, cadeirydd y corff llywodraethu: "Fel llywodraethwyr, ry'n ni wedi bod yn cydweithio'n agos gyda'r pennaeth a sicrhau ein bod yn gweithio fel tîm er lles yr ysgol.  Mae'r pennaeth a'r staff wedi gwneud gwaith gwych i gael yr ysgol allan o fesurau arbennig a gyda'n gilydd byddwn yn sicrhau bod yr ysgol yn parhau i wella." 

Mae'r ysgol bellach wedi dangos cynnydd da o ran argymhellion Estyn ac mae uchafbwyntiau’r adroddiad yn cynnwys:

  • Mae'r pennaeth a'i uwch dîm arwain yn cyfleu eu gweledigaeth, yn seiliedig ar gydraddoldeb, ymrwymiad, a chyfanrwydd, yn glir o fewn yr ysgol.  Mae hyn yn hanfodol i ethos yr ysgol ac yn sylfaen i'w holl waith.  Mae wedi helpu arweinwyr i sicrhau gwelliannau addas mewn rhai agweddau pwysig o waith yr ysgol, gan gynnwys ansawdd yr addysgu ac asesu.
  • Mewn gwersi, mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gyffredinol yn gwneud cynnydd da o ran eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau. Mae'r disgyblion hyn yn dangos agwedd bositif tuag at eu dysgu ac yn cymryd rhan yn dda mewn ystod o weithgareddau.
  • Mewn llawer o wersi, mae athrawon yn datblygu perthynas weithio dda gyda'u dosbarthiadau, sy'n helpu i hyrwyddo amgylchedd dysgu cadarnhaol.
  • Mae'r disgyblion yn elwa ar ystod ehangach o gyfleoedd gwerth chweil i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd ar draws y cwricwlwm.
  • Mae'r ysgol wedi codi proffil datblygu llafaredd disgyblion mewn gwahanol bynciau ac mae'r disgyblion yn mwynhau ac yn elwa o drafod materion amserol gan gynnwys casineb annerbyniol at ferched a ph’un a yw chwaraeon yn dysgu gwerthoedd da i ni.
  • Mae gweledigaeth uwch arweinwyr ynglŷn â sut i wella'r gefnogaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar arferion presennol.

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.