Dathlu'r Coroni –ymunwch â ni ar gyfer y Cinio Mawr, rhowch gynnig ar ein cystadleuaeth, partïon stryd a mwy!
Wedi ei bostio ar Thursday 6th April 2023
Bydd pobl ledled y wlad a'r Gymanwlad yn dathlu Coroni Ei Fawrhydi Y Brenin a'i Mawrhydi Y Frenhines Gydweddog dros benwythnos o ddigwyddiadau arbennig.
Bydd Cinio Mawr y Coroni, partïon stryd a diwrnod wedi’i ymroi i achosion da yn dod â chymunedau at ei gilydd.
Cynhelir y Coroni ddydd Sadwrn 6 Mai yn Abaty Westminster a ddydd Sul 7 Mai cynhelir Cyngerdd Coroni yng Nghastell Windsor.
Bydd penwythnos y dathliadau yn dod i ben gyda'r Big Help Out nos Lun 8 Mai - gŵyl y banc arbennig wedi’i chyhoeddi gan y Prif Weinidog i nodi’r Coroni.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y cyngor: "Y llynedd gwelsom rywbeth arbennig iawn, pan ddaeth cynifer o bobl ar draws y ddinas i ysbryd y jiwbilî a dod at ei gilydd i ddathlu. Roedd yn anhygoel gweld teuluoedd, cymunedau a sefydliadau i gyd yn cael hwyl, a hoffem efelychu hynny eleni i ddathlu coroni'r Brenin.
"Rwy'n falch o gyhoeddi y byddwn unwaith eto yn cefnogi partïon stryd - nid yn unig yr ydym yma i helpu, rydym hefyd yn cynnig talu am rai o'r costau a all fod yn gysylltiedig â chau ffordd. Gwnewch gynlluniau a chyflwyno eich ceisiadau’n gynnar!
“Ymunodd cannoedd gyda ni hefyd ar gyfer Cinio Mawr y Jiwbili y llynedd – felly fe fyddwn ni nôl unwaith eto eleni gydag adloniant, cerddoriaeth fyw, gweithgareddau chwaraeon a hwyl i’r teulu cyfan.”
Cinio Mawr y Coroni – Parc Beechwood
Dydd Sul 7 Mai, 2023
12-4pm
Dewch â phicnic i ddathlu â’r teulu cyfan. Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd:
- Cerddoriaeth fyw gan Newport City Radio a Grŵp Parc Beechwood
- Gweithgareddau chwaraeon gyda Casnewydd Fyw fel pêl-droed, pêl-fasged, tenis a gweithgareddau i blant
- Adloniant crwydr gan gynnwys y Nutkins, Majorettes, Bees a Sunday Besties
- Gweithdai celf a chrefft i blant
Partïon Stryd
I gefnogi’r Cinio Mawr ddydd Sul, 7 Mai, bydd Cyngor Dinas Casnewydd unwaith eto yn hwyluso partïon stryd lleol fel y gwnaethom ni ar gyfer y Jiwbilî.
Mae canllawiau ar sut i gynllunio parti stryd yn ddiogel ac, os oes angen, wneud cais am gau ffordd, ar gael yma.
Caiff ceisiadau eu hystyried ar sail diogelwch, addasrwydd cau’r ffordd a ffyrdd eraill sydd ar gau yn yr ardal, ond os cânt eu cymeradwyo, bydd y Cyngor yn talu am gost mesurau rheoli traffig priodol angenrheidiol (er enghraifft, arwyddion a chonau hanfodol).
Os nad yw parti stryd yn addas ar gyfer eich ardal neu os nad oes modd cau ffyrdd, mae syniadau eraill hefyd o ran sut y gallwch nodi'r achlysur yn eich cymuned.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau cychwynnol i gau ffyrdd yw 16 Ebrill, 2023. Yn dilyn adolygiad o'r ceisiadau a ddaw i law, gellir cyhoeddi cylch arall o gyflwyno ceisiadau.
Cystadleuaeth celf a barddoniaeth y coroni
I ddathlu coroni’r Brenin Siarl III, byddem wrth ein boddau i bobl ifanc yng Nghasnewydd gynhyrchu gwaith celf neu gerdd ar thema’r Coroni.
Cyflwynwch eich cais erbyn dydd Gwener 12 Mai 2023 a gallech ennill gwobr wych. Bydd gwobrau unigol gan gynnwys cael eich cerdd wedi’i darllen gan awdur enwog neu enwogion lleol, ac mae cyfle i ennill iPads i geisiadau ysgol buddugol!
Darganfod mwy
Os ydych chi'n cynllunio digwyddiad cyhoeddus ar gyfer y Coroni, rhowch wybod i ni a byddwn yn eich ychwanegu at rhestr Be Sy’ Mlaen – cyflwynwch eich digwyddiad yn www.newport.gov.uk/whatson – neu e-bostiwch [email protected]
Darganfod mwy am ddigwyddiadau'r Coroni