Teyrnged i'r gwasanaethau brys
Wedi ei bostio ar Tuesday 6th September 2022
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn nodi Diwrnod Gwasanaethau Brys (9 Medi) gyda seremoni codi baner y tu allan i'r Ganolfan Ddinesig yn y bore a goleuo tŵr y cloc yn las gyda'r nos.
Dyma'r ail flwyddyn i'r cyngor gefnogi'r digwyddiad cenedlaethol sy'n cydnabod dewrder ac anhunanoldeb gweithwyr brys, yn enwedig y rhai sydd wedi colli eu bywydau wrth gyflawni eu dyletswyddau.
Mae bron i ddwy filiwn o bobl yn gweithio i'r heddlu a’r gwasanaethau tân ac achub, ambiwlans, iechyd, gwylwyr y glannau a badau achub, ac o ran chwilio ac achub - mae yna 250,000 o ymatebwyr cyntaf, gan gynnwys gwirfoddolwyr.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Dyma amser i gofio a thalu teyrnged i bawb sydd wedi rhoi eu bywydau wrth gyflawni eu dyletswyddau wrth geisio achub eraill.
"Mae hefyd yn amser i ddiolch i'n gweithwyr argyfwng lleol sy'n gwneud gwaith mor bwysig. Mae'r rhai sydd ar y rheng flaen, sy'n aml yn perfformio'n arwrol o dan amgylchiadau anodd i helpu eraill, yn haeddu ein gwerthfawrogiad dwysaf."
Cynhelir y seremoni codi baneri am 9am y tu allan i fynedfa flaen y Ganolfan Ddinesig. Bydd y gwasanaeth, dan arweiniad y Parchedig Keith Beardmore, yn cael ei fynychu gan y Cynghorydd Mudd; maer Casnewydd, y Cynghorydd Martyn Kellaway a chynrychiolwyr y gwasanaethau brys.