Newyddion

Archfarchnad yn cael ei herlyn am werthu bwyd anniogel

Wedi ei bostio ar Tuesday 13th September 2022

Cafodd siop yng Nghasnewydd, ei chyfarwyddwr a'i rheolwr eu dedfrydu ddoe am 26 o droseddau'n ymwneud â gwerthu bwyd y tu hwnt i'r dyddiad dod i ben ac un drosedd yn ymwneud â label camarweiniol. 

Plediodd Berzan LMT yn masnachu fel Archfarchnad Foodway Casnewydd, y cyfarwyddwr Ali Ceylan a'r rheolwr Aydin Atmali yn euog i bob un o'r 27 trosedd mewn gwrandawiad yn gynharach. 

Cafodd Berzan LMT, o Clytha Park Road, gan ynadon Casnewydd, Cafodd, ddirwy o £16,000, a’i orchymyn i dalu costau o £800 a gordal o £190. 

Cafodd Ceylan, 36 oed, o Britten Place, Biggleswade, orchymyn cymunedol 12 mis ar gyfer 200 awr o waith di-dâl, a’i orchymyn i dalu costau o £800 a gordal o £95. 

Mewn gwrandawiad cynharach, Cafodd Atmali, 43 oed, o Lansdowne Road, Casnewydd, orchymyn cymunedol 12 mis ar gyfer 180 awr o waith di-dâl, a’i orchymyn i dalu costau o £800. 

Derbyniodd tîm safonau masnach Cyngor Dinas Casnewydd gŵyn ym mis Ebrill 2021 gan gwsmer a ddywedodd ei fod wedi prynu bwyd heibio’r dyddiad o'r archfarchnad ac wedi dioddef o wenwyn bwyd ar ôl ei fwyta.  

Canfu arolygiad cychwynnol chwe chynnyrch y tu hwnt i'w dyddiad defnyddio. Cytunodd y perchennog a'r rheolwr i gau'r siop ar unwaith a chael gwared ar unrhyw eitemau a oedd wedi mynd heibio’r dyddiad dod i ben.  

Fodd bynnag, yr wythnos ganlynol, ymwelodd swyddogion safonau masnach â'r siop eto a chanfu 47 o eitemau gyda dyddiadau defnyddio a oedd wedi dod i ben a mêl a oedd  wedi'i ddisgrifio'n anghywir fel mêl organig. 

Yn ystod ymweliad pellach â'r siop ym mis Chwefror eleni darganfuwyd 3 eitem fwyd arall gyda dyddiadau defnyddio a oedd wedi dod i ben. 

Dywedodd y Cynghorydd James Clarke, yr aelod cabinet dros gynllunio strategol, rheoleiddio a thai:  "Mae gan siopau gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hyn maen nhw'n ei werthu yn ddiogel ac nad yw'n peri risg i iechyd eu cwsmeriaid.  Mae'r rhan fwyaf yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif, ond byddwn yn cymryd camau yn erbyn y rhai nad ydynt yn cymryd camau. 

"Dangosodd y busnes hwn ddiystyriaeth lwyr i'w gwsmeriaid gan werthu eitemau bwyd y tu hwnt i'w dyddiad defnyddio hyd yn oed ar ôl ein harolygiad a'n rhybudd cyntaf. 

 

"Rwy'n falch bod yr ynadon yn cydnabod difrifoldeb y troseddau ac rwy'n gobeithio y bydd yr erlyniad hwn yn cyfleu neges amlwg bod rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch bwyd."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.