Newyddion

Goleuo ar gyfer Diwrnod Duchenne

Wedi ei bostio ar Monday 5th September 2022

Bydd tŵr cloc Canolfan Ddinesig Casnewydd yn cael ei oleuo’n goch Ddydd Mercher (7 Medi) i nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Duchenne y Byd. 

Mae dystroffi'r cyhyrau Duchenne yn gyflwr genetig a chynyddol prin, a gaiff ei adnabod yn ystod plentyndod, ac sy'n achosi i'r holl gyhyrau wanhau'n raddol. 

Does dim iachâd ond nod Duchenne UK yw dod â'r clefyd i ben a chodi arian ar gyfer ymchwil arloesol, cyflymu triniaethau a chefnogaeth i deuluoedd. 

Mae Maer Casnewydd, y Cynghorydd Martyn Kellaway, wedi dewis Elliot’s Endeavours fel un o'i elusennau ar gyfer y flwyddyn. 

Mae Elliot's Endeavours to End Duchenne yn ymdrech i godi arian a gychwynnwyd ac a drefnwyd gan rieni bachgen lleol a gafodd ddiagnosis o'r cyflwr pan oedd ond yn dair oed.  

Mae teulu Elliot yn gweithio’n ddiflino i godi arian i gefnogi Duchenne UK.

Dwedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd:  "Mae'r Maer wedi dewis sefydliad teilwng fel un o fuddiolwyr ei flwyddyn yn y swydd ac rwy'n falch y gallwn ddangos ein cefnogaeth a gobeithio helpu i godi ymwybyddiaeth. 

"Mae hwn yn salwch creulon sy'n effeithio'n ofnadwy ar blant fel Elliot, a'u teuluoedd.  Mae defosiwn ac ymrwymiad ei rieni i helpu eraill sydd yn eu sefyllfa nhw yn ganmoladwy ac yn ysbrydoledig. 

"Mae Duchenne UK yn ariannu ymchwil hanfodol a allai arwain un diwrnod at wellhad rhag y salwch torcalonnus hwn ond maen nhw hefyd yn sicrhau bod y triniaethau gorau ar gael ac yn rhoi cymorth i deuluoedd ac mae hynny mor bwysig." 

I gael gwybod mwy am Duchenne UK ac Elliot's Endeavours ewch i https://www.duchenneuk.org/elliots-endeavours/

 

 

Elusen arall y Maer eleni yw The Burnt Chef Project sy’n ceisio dileu stigma iechyd meddwl o fewn y sector lletygarwch. Dysgwch fwy am ei elusennau yn https://www.newport.gov.uk/cy/Council-Democracy/Mayors-Office/Mayors-Office.aspx

More Information