Argyfwng tai
Wedi ei bostio ar Tuesday 20th September 2022
Nid oes gan Gyngor Dinas Casnewydd ei stoc tai cymdeithasol ei hun, ond mae'n rheoli'r gofrestr tai cymdeithasol ar gyfer y ddinas.
Gall pobl gael rhesymau gwahanol dros gofrestru ar gyfer tai cymdeithasol ac nid yw hyn bob amser oherwydd eu bod yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.
Mae digartrefedd neu'r risg o ddigartrefedd yn rhywbeth y mae'r cyngor yn gweithio'n galed i'w atal gan ein bod yn ymwybodol o’r effaith ofnadwy y mae'n gallu ei gael ar deuluoedd ac unigolion.
Fodd bynnag, mae'n delio â galw digynsail am dai dros dro a hirdymor. Yn syml, nid oes digon o lety ar gael i ateb y galw.
Yn ystod y pandemig, gwelwyd cynnydd o ran nifer yr aelwydydd a ddaeth yn ddigartref ac mae hyn wedi parhau oherwydd yr argyfwng ariannol presennol.
Yn 2021/2022, cysylltodd 2,286 o bobl â'r Cyngor i gael cyngor ar ddigartrefedd, ac mae'r Cyngor wedi sicrhau cynnydd o 133 y cant mewn llety dros dro o gymharu â'r ddarpariaeth cyn y pandemig. Ond nid yw hyn yn ddigon.
Mae mwy na 9,000 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd gyda llawer o bobl ag angen tai uchel. Yn ystod 2021 / 2022, dyrannwyd 679 o eiddo drwy Home Options Newport.
Yn 2019/20, roedd 198 o bobl yn byw mewn llety dros dro ar unrhyw un adeg a gwelwyd ffigwr tebyg y flwyddyn ganlynol. Cododd hyn i 345 yn 2020/21 a 387 yn 2021/22.
Mae 90 o aelwydydd yn cael eu rhoi mewn llety dros dro bob mis ar gyfartaledd tra bod llai nag 20 o aelwydydd yn cael eu symud o lety dros dro bob mis.
Ni fydd y rhai sy'n canfod eu hunain mewn perygl o fod yn ddigartref yn gallu symud yn syth i lety hirdymor ac efallai bydd rhaid iddynt orfod byw mewn llety dros dro am gyfnod sylweddol o amser.
Mae'r cyngor yn cydymffurfio'n llawn â'i gyfrifoldebau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth tai ac wrth gefnogi unigolion a theuluoedd sy'n wynebu digartrefedd.
Mae'n gweithio'n agos gyda chymdeithasau tai cymdeithasol yn y ddinas ac maen nhw'n ceisio dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn gyflym er mwyn eu galluogi i ailgartrefu unigolion a theuluoedd.
Mae gan y cyngor hefyd bolisi sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ddarparu anheddau fforddiadwy fel rhan o ddatblygiadau newydd mwy, ond mae rhai wedi bod yn lleihau'r cyfraniad hwnnw ar sail hyfywedd ariannol cyffredinol y datblygiad.
Mae tai rhent preifat yn lleihau oherwydd nifer o ffactorau a phan mae landlordiaid yn penderfynu gwerthu eiddo, gall hyn olygu bod eu tenantiaid yn wynebu digartrefedd.
Pan gyfunir y ffactorau hyn â'r heriau costau byw, mae'n amlwg bod y ddinas – fel sawl ardal arall o amgylch y wlad - yn wynebu argyfwng tai sydd heb ei brofi ers degawdau lawer.