Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II
Wedi ei bostio ar Tuesday 13th September 2022
“Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn drist o glywed y newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines Elisabeth II.
“A hithau wedi teyrnasu’n hwy nag unrhyw frenin neu frenhines o’i blaen, rhoddodd flynyddoedd lawer o wasanaeth ffyddlon i’r wlad, ac am hynny diolchwn iddi.
"Cafodd Casnewydd yr anrhydedd o groesawu Ei Mawrhydi i'r ddinas ar sawl achlysur ac mae'n falch o’i statws fel dinas jiwbilî.
"Estynnwn gydymdeimlad y cyngor a’r ddinas i’r teulu brenhinol ar yr adeg anodd hon."
Y Cynghorydd Martyn Kellaway, Maer Dinas Casnewydd
---
Baneri ar hanner mast
Fel arwydd o barch, bydd baneri'r Ganolfan Ddinesig yn chwifio ar hanner y mast tan Ddydd Sadwrn 10 Medi am 11am. Yn unol â phrotocolau cenedlaethol, bydd y faner wedyn yn cael ei chodi i ben y mast. Ddydd Sul 11 Medi am 1pm, byddant yn mynd nôl i chwifio ar hanner mast tan ddiwedd y cyfnod galaru cenedlaethol.
Bydd tŵr y cloc hefyd yn aros yn dywyll gyda'r nos yn ystod y cyfnod galaru.
Llyfrau Cydymdeimlo
Mae llyfrau cydymdeimlo bellach ar agor i'r cyhoedd yn y lleoliadau a'r amseroedd canlynol:
- Canolfan Ddinesig Casnewydd, NP20 4UR: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 6pm
- Theatr Glan yr Afon, NP20 1HG: Dydd Mawrth, 9am - 6pm
Dydd Mercher, 9am - 8pm
Dydd Iau, 9am - 10pm
Dydd Gwener, 9am - 10pm
Dydd Sadwrn, 9am - 10pm
Dydd Sul, IGG
- Cadeirlan Casnewydd, NP20 4EA: 7 diwrnod yr wythnos, 10am - 3pm
Byddant yn parhau ar agor tan ddiwedd y cyfnod galaru ffurfiol.
Gellir llofnodi llyfr cydymdeimlo ar-lein yn www.royal.uk/send-message-condolence
Gosod blodau
Gall aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno gosod blodau wneud hynny yn y lleoliadau canlynol:
- Y Ganolfan Ddinesig, NP20 4UR
- Cadeirlanl Casnewydd, NP20 4EA
- Theatr Glan yr Afon, NP20 1HG
Ystyriwch osod blodau heb bapur lapio plastig neu tynnwch y plastig.
Diwrnod y Proclamasiwn
Mae’r cyhoeddiadau swyddogol as gyfer Gwent a Chasnewydd wedi’u cynnal.
Dyma'r dull ffurfiol o rannu'r newyddion bod y frenhines wedi marw a bod yr etifedd wedi esgyn i’r orsedd.
Gwyliwch ar-lein:
Gwent: https://youtu.be/6E-zBUOpcWg
Casnewydd: https://youtu.be/t19aySDFAbk
Bydd cyfarfodydd cyhoeddus sydd i fod i gael eu cynnal nawr yn cael eu gohirio tan ar ôl angladd Ei Mawrhydi.