Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II - diweddariadau gwasanaeth
Wedi ei bostio ar Tuesday 13th September 2022
“Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn drist o glywed y newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines Elisabeth II.
“A hithau wedi teyrnasu’n hwy nag unrhyw frenin neu frenhines o’i blaen, rhoddodd flynyddoedd lawer o wasanaeth ffyddlon i’r wlad, ac am hynny diolchwn iddi.
"Cafodd Casnewydd yr anrhydedd o groesawu Ei Mawrhydi i'r ddinas ar sawl achlysur ac mae'n falch o’i statws fel dinas jiwbilî.
"Estynnwn gydymdeimlad y cyngor a’r ddinas i’r teulu brenhinol ar yr adeg anodd hon."
Y Cynghorydd Martyn Kellaway, Maer Dinas Casnewydd
---
Newidiadau i Gasgliadau Gwastraff
Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd dydd Llun 19 Medi yn ŵyl y banc i nodi angladd gwladol Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II, rydym yn gwneud newid i'n casgliadau gwastraff yr wythnos nesaf.
Ni fydd unrhyw wastraff, ailgylchu na gwastraff gardd yn cael ei gasglu ddydd Llun 19 Medi. Bydd yr holl wastraff yn cael ei gasglu un diwrnod yn hwyrach na'r arfer yr wythnos nesaf, felly os yw eich gwastraff fel arfer yn cael ei gasglu ddydd Llun, bydd yn cael ei gasglu ddydd Mawrth. Cynhelir y casgliadau tan ddydd Sadwrn 24 Medi.
Bydd canolfan ailgylchu gwastraff y cartref hefyd ar gau ddydd Llun 19 Medi.
Baneri ar hanner mast
Fel arwydd o barch, bydd baneri'r Ganolfan Ddinesig yn chwifio ar hanner y mast tan Ddydd Sadwrn 10 Medi am 11am. Yn unol â phrotocolau cenedlaethol, bydd y faner wedyn yn cael ei chodi i ben y mast. Ddydd Sul 11 Medi am 1pm, byddant yn mynd nôl i chwifio ar hanner mast tan ddiwedd y cyfnod galaru cenedlaethol.
Bydd tŵr y cloc hefyd yn aros yn dywyll gyda'r nos yn ystod y cyfnod galaru.
Llyfrau Cydymdeimlo
Mae llyfrau cydymdeimlo bellach ar agor i'r cyhoedd yn y lleoliadau a'r amseroedd canlynol:
- Canolfan Ddinesig Casnewydd, NP20 4UR: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 6pm
- Theatr Glan yr Afon, NP20 1HG: Dydd Mawrth, 9am - 6pm
Dydd Mercher, 9am - 8pm
Dydd Iau, 9am - 10pm
Dydd Gwener, 9am - 10pm
Dydd Sadwrn, 9am - 10pm
Dydd Sul, IGG
- Cadeirlan Casnewydd, NP20 4EA: 7 diwrnod yr wythnos, 10am - 3pm
Byddant yn parhau ar agor tan ddiwedd y cyfnod galaru ffurfiol.
Gellir llofnodi llyfr cydymdeimlo ar-lein yn www.royal.uk/send-message-condolence
Gosod blodau
Gall aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno gosod blodau wneud hynny yn y lleoliadau canlynol:
- Y Ganolfan Ddinesig, NP20 4UR
- Cadeirlanl Casnewydd, NP20 4EA
- Theatr Glan yr Afon, NP20 1HG
Ystyriwch osod blodau heb bapur lapio plastig neu tynnwch y plastig.
Diwrnod y Proclamasiwn
Mae’r cyhoeddiadau swyddogol as gyfer Gwent a Chasnewydd wedi’u cynnal.
Dyma'r dull ffurfiol o rannu'r newyddion bod y frenhines wedi marw a bod yr etifedd wedi esgyn i’r orsedd.
Gwyliwch ar-lein:
Gwent: https://youtu.be/6E-zBUOpcWg
Casnewydd: https://youtu.be/t19aySDFAbk
Bydd cyfarfodydd cyhoeddus sydd i fod i gael eu cynnal nawr yn cael eu gohirio tan ar ôl angladd Ei Mawrhydi.