Cynllun grant i helpu grwpiau bwyd cymunedol
Wedi ei bostio ar Wednesday 21st September 2022
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo £100,000 i gynorthwyo grwpiau bwyd cymunedol sy'n ymroddedig i helpu trigolion wrth i gostau byw barhau i gynyddu.
Mae cynllun newydd i helpu'r sefydliadau hyn nawr ar agor ar gyfer ceisiadau ar ôl cael ei lansio gan y cyngor mewn partneriaeth gyda'r sefydliad cymorth gwirfoddol CMGG.
Bydd banciau bwyd, a grwpiau eraill sy'n helpu trigolion sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol, yn gallu gwneud cais am grantiau i gynorthwyo gyda chostau beunyddiol fel prynu bwydydd i ail-lenwi eu stociau.
Rhoddodd cynllun cynharach, a oedd hefyd yn cael ei redeg ar y cyd â CMGG, gymorth ariannol i fentrau fel prosiectau tyfu neu uwchraddio offer er mwyn helpu grwpiau i wynebu'r her o fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Rydym yn gwybod bod mwy a mwy o drigolion yn ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd a, gyda phrisiau bwyd a chostau cartref eraill yn parhau i waethygu, mae hyn yn achosi caledi a gofid.
"Mae banciau bwyd a sefydliadau eraill yn achubiaeth hanfodol i deuluoedd ac unigolion yn y sefyllfa hon, ond maen nhw hefyd yn cael anawsterau oherwydd yr argyfwng presennol. Mae rhoddion yn lleihau tra bod eu costau'n cynyddu. Bwriad y cynllun hwn yw helpu i leddfu'r sefyllfa anodd hon.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, aelod cabinet y cyngor dros les cymunedol: "Mae CMGG yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi'r sefydliadau gwirfoddol hyn ac rydym yn ddiolchgar am ei gefnogaeth i weinyddu'r cynllun hwn a dosbarthu arian a fydd yn cynorthwyo'r grwpiau hyn gyda'u costau ac yn eu helpu i gynnal darpariaeth o'r gwasanaethau hanfodol hyn.
"Hoffwn ddiolch hefyd i'r grwpiau hyn a'u holl wirfoddolwyr am eu gwaith caled a'u hymroddiad. Ni fu erioed fwy o angen hyn nag ar hyn o bryd, pan fo hyd yn oed mwy o deuluoedd ac unigolion yn wynebu argyfwng ariannol.”
Dywedodd Stephen Tiley, Prif Weithredwr GAVO: "Mae GAVO yn falch o allu parhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd i ddarparu cymorth ariannol i sefydliadau ar draws y ddinas sy'n helpu teuluoedd i sicrhau bod bwyd ar y bwrdd. Mewn cyfnod anodd mae gwaith y trydydd sector ar flaen y gad o ran cefnogi cymunedau, ac rwy’n gwybod y bydd hyn yn cael ei werthfawrogi gan lawer o deuluoedd ac unigolion."
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais am y cyllid, ewch i Grant scheme to help community food groups (gavo.org.uk)