Newyddion

Mynd yn binc ar gyfer Wythnos Rhoi Organau

Wedi ei bostio ar Monday 26th September 2022

Unwaith eto mae Cyngor Dinas Casnewydd yn dangos ei gefnogaeth i Wythnos Rhoi Organau a gynhelir yr wythnos hon. 

Mae trefnwyr GIG yn gofyn i bawb fynd yn binc er mwyn nodi'r ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth. 

Fel Dinas Rhoddwr, bydd Casnewydd yn dangos ei chefnogaeth am yr wythnos drwy oleuo tŵr cloc y Ganolfan Ddinesig yn binc rhwng 26 Medi a 2 Hydref. 

Gobaith y trefnwyr yw y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn gweld pa mor bwysig yw rhoi organau ac

yn eu hannog i wneud eu hanwyliaid yn ymwybodol o'u dymuniadau. 

Dwedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd:  "Yn 2019, cynhaliodd Casnewydd y Gemau Trawsblaniad Prydeinig ysbrydoledig ac roeddem yn falch o fod yn Ddinas Rhoddwr. 

"Roedd yn hyfryd gweld cleifion trawsblaniad yn cymryd rhan, clywed straeon symudol teuluoedd rhoddwyr a chwrdd â'r staff anhygoel sy'n gwneud eu gwaith anhygoel. Amlygai fod rhoi organau yn rhodd mor werthfawr a'r gwahaniaeth y gall ei wneud i fywyd. 

"Byddwn yn annog pobl i gofrestru eu penderfyniad am roi organau ac yna dweud wrth eu teulu a'u ffrindiau fel nad oes ganddyn nhw amheuon am eich dymuniadau. Bydd yn eu gwneud nhw'n fwy tebygol o gefnogi'r penderfyniad hwnnw." 

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am roi organau yma https://llyw.cymru/ymgyrch-rhoi-organau

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.