Newyddion

Ehangu Dechrau'n Deg

Wedi ei bostio ar Friday 30th September 2022

Mae rhaglen Dechrau'n Deg yng Nghasnewydd yn tyfu i gynnwys hyd yn oed mwy o blant o'r hydref hwn. 

Dyma gam cyntaf cynllun Llywodraeth Cymru i ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed ac mae'n cynnwys pob un o'r pedair elfen o Dechrau'n Deg: 

  • Gofal plant rhan amser, o ansawdd uchel i blant dwy oed
  • Cymorth rhianta
  • Cymorth Ymwelwyr Iechyd Gwell
  • Cymorth Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu 

Yng Nghasnewydd, mae mwy na 2,000 o blant eisoes yn gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg, ac mae'r ehangu yn golygu y bydd 187 o blant eraill yn gymwys. 

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn cysylltu gyda theuluoedd mewn tair rhan newydd o'r ddinas i esbonio y gallan nhw ymuno â'r cynllun nawr hefyd. 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, aelod cabinet y cyngor dros les cymunedol:  "Mae Dechrau'n Deg yn gynllun arbennig a dwi'n falch iawn ein bod bellach yn gallu cynnig y ddarpariaeth yma i fwy o deuluoedd mewn mwy o ardaloedd o'r ddinas. 

"Bydd y rhai sy'n gymwys yn derbyn 12.5 awr o ofal blant wedi'u hariannu, o ansawdd uchel am 39 wythnos o'r flwyddyn, wedi'u darparu gan weithwyr cymwys sy'n gallu cefnogi datblygiad a meithrin plant. 

"Bydd plant dan bedwar oed hefyd yn elwa ar raglen uwch ymweld iechyd a mynediad at gymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu lle mae ei angen. 

"Bydd rhieni a gofalwyr hefyd yn cael cynnig cyfleoedd i ddysgu mwy am sgiliau magu plant a all helpu i gefnogi datblygiad, gofal a lles eu plentyn." 

Am ragor o wybodaeth am Dechrau'n Deg yng Nghasnewydd ewch i https://www.newport.gov.uk/cy/Care-Support/Children-and-families/Family-Information-Service/Flying-Start/Flying-Start.aspx

 

More Information