Newyddion

Cromwell Road – cau ffordd dros dro

Wedi ei bostio ar Thursday 8th September 2022

Bydd Cromwell Road ar gau o ddydd Llun 12 Medi am dair wythnos.

Pwrpas hyn yw caniatáu i Dŵr Cymru wneud gwaith atgyweirio brys i brif bibell ddŵr sydd wedi byrstio.

Bydd y ffordd ar gau yn llawn rhwng Somerton Lane a chylchfan Somerton Road. Bydd preswylwyr sy'n byw ar Cromwell Road, neu ar strydoedd oddi ar Cromwell Road, yn gallu cael mynediad i'w stryd o Corporation Road.

Mae gwyriad ar waith ar gyfer traffig ar hyd Corporation Road, Wharf Road, a Chepstow Road.

Mae'r Cyngor yn ymddiheuro o flaen llaw am unrhyw anghyfleustra a achosir gan gau’r ffordd. Rydym hefyd yn diolch i drigolion am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bod Dŵr Cymru yn gwneud y gwaith brys hwn.

Lawrlwytho map o'r gwaith ffordd (pdf). 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.