Newyddion

Annog trigolion i roi cynnig ar un peth newydd ar gyfer Wythnos Mynd Ar-lein

Wedi ei bostio ar Thursday 13th October 2022

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd, ynghyd â'i bartneriaid, yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau am ddim gan roi cyfle i bawb ddod o hyd i'r gefnogaeth sydd ei angen arnynt i wella eu sgiliau digidol.

Mae'r sesiynau'n cynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaethau digidol yn llyfrgelloedd Casnewydd, defnyddio technoleg gynorthwyol i gefnogi byw'n annibynnol, sut i ddefnyddio e-bost, siopa a bancio yn ddiogel ar-lein a sut i'ch cadw chi a'ch plant yn ddiogel ar-lein.

Ymgyrch gynhwysiant digidol flynyddol yw Wythnos Mynd Ar-lein sy'n cael ei chynnal gan elusen Good Things Foundation ac eleni maen nhw'n annog pobl i Roi Cynnig ar Un Peth - boed hynny'n dysgu sut i wneud galwad fideol gyda ffrindiau a theulu, cymharu bargeinion ar-lein neu ddod o hyd i swydd newydd.

Waeth beth yw eich oedran neu gefndir mae rhywbeth i bawb.  Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu sgiliau newydd.

Bydd ymgyrch Wythnos Mynd Ar-lein eleni yn cael ei chynnal rhwng 17 a 23 Hydref 2021 gyda sesiynau'n cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws y ddinas - gan gynnwys Marchnad Casnewydd, campws Coleg Gwent Nash, llyfrgell Betws a champws dinas Prifysgol De Cymru.

Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.newport.gov.uk/en/About-Newport/Digital-city/Digital-city.aspx 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.