Newyddion

Cartref Cŵn Casnewydd yn ennill aur - eto!

Wedi ei bostio ar Thursday 13th October 2022

Mae Cartref Cŵn Dinas Casnewydd wedi ennill aur yng ngwobrau PawPrint RSPCA Cymru 2022 am eu gwaith gyda chŵn crwydr.

Dyma'r unfed flwyddyn ar ddeg i'r tîm gael cydnabyddiaeth  gydag aur yng nghategori'r wobr cŵn crwydr am eu gwaith caled yn gofalu am y cŵn sydd dan eu gofal. Hefyd, eleni, maen nhw hefyd wedi cael aur yn y categori cynelu.

Cynllun gwobrwyo blynyddol yw PawPrint sy'n cydnabod arfer da gan gyrff cyhoeddus mewn perthynas â lles anifeiliaid. Mae nifer o gategorïau gan gynnwys cydnabyddiaeth am ddarpariaeth ar gyfer cŵn crwydr, gwaith trwyddedu anifeiliaid, cynllunio wrth gefn a pholisïau tai.  Mae pob categori’n cael ei feirniadu yn erbyn meini prawf penodol ac mae gwobrau efydd, arian ac aur ym mhob un.

Er mwyn cyflawni aur, dangosodd y tîm yr ansawdd uchel o ofal a roddir i gŵn crwydr anafedig a sâl, yn ogystal â sicrhau bod gan y cŵn dan eu gofal le addas i fyw a bwydo diet iach.

Dywedodd y Cynghorydd James Clarke, yr aelod cabinet dros gynllunio strategol, rheoleiddio a thai:   "Rydym yn falch iawn o’n gwasanaeth cŵn crwydr a chynelu, mae ein staff yn gweithio’n galed i sicrhau y gofelir am unrhyw gŵn crwydr neu gŵn nad yw pobl eu heisiau bellach a’u bod yn cael y cyfle mwyaf addas ar gyfer gofal yn y dyfodol.

"Mae'n wych bod y gwaith caled wedi cael ei gydnabod, nid mewn un, ond mewn dau gategori. Da iawn i bawb wnaeth gymryd rhan!"

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith a wneir gan Gartref Cŵn Dinas Casnewydd, ewch i www.newport.gov.uk/newportdogshome

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.