Newyddion

Digwyddiad cymorth a chyngor costau byw

Wedi ei bostio ar Thursday 20th October 2022

Bydd trigolion Casnewydd yn gallu cael gwybod am amrywiaeth o gymorth a chyngor mewn digwyddiad costau byw sy'n cael ei gynnal gan y Cyngor fis nesaf. 

Gall aelodau o'r cyhoedd fynd i Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon rhwng 10am a 6pm ddydd Iau 3 Tachwedd. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:  "Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn cael eu heffeithio'n andwyol gan yr argyfwng costau byw ac fe allai hynny waethygu dros fisoedd y gaeaf. 

"Mae llawer o gefnogaeth ar gael i helpu pobl i ymdopi â'r pwysau a'r heriau maen nhw'n eu hwynebu ond efallai bod rhai yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y wybodaeth gywir. 

"Dyna pam roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig i drigolion allu mynd i un lle i gael cyngor, gofyn cwestiynau a dod i wybod am gefnogaeth efallai nad ydyn nhw hyd yn oed yn ymwybodol ohono. 

"Hoffwn ddiolch i Casnewydd Fyw am gynnal ein digwyddiad mewn lleoliad canolog a hygyrch ac i'r holl sefydliadau eraill fydd yn ymuno â ni. 

Yn ogystal â gwybodaeth am y cymorth y mae'r Cyngor yn ei gynnig, bydd cyrff eraill, gan gynnwys y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, yr Undeb Credyd a Dŵr Cymru yn y digwyddiad i roi cyngor i drigolion. 

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan hefyd wrth law i gefnogi’r rheiny sydd am roi’r gorau i’r arfer ddrud o ysmygu. 

Bydd hefyd de a choffi am ddim, cyfle i ennill tocynnau pantomeim, a gweithgareddau i blant (mae'r digwyddiad yn digwydd yn ystod hanner tymor).

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a phwy fydd yn mynd yno yn cael ei chyhoeddi dros yr wythnosau nesaf. 

Am y newyddion diweddaraf, dilynwch ni ar Twitter @NewportCouncil a Facebook Cyngor Dinas Casnewydd, neu ewch i www.newport.gov.uk/support lle byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am amrywiaeth o gymorth a chyngor.

More Information