Newyddion

Dyn siop wedi'i erlyn yn llwyddiannus am fod ag e-sigarennau anghyfreithlon

Wedi ei bostio ar Friday 25th November 2022

Dywedwyd wrth y llys fod gan berchennog siop o Gasnewydd e-sigarennau untro gyda mwy o hylif sy'n cynnwys nicotin na'r hyn a ganiateir i’w werthu. 

Cafwyd hyd i e-sigarennau yn Lifestyle Express, 238 Corporation Road, gyda rhwng 2,500 a 3,500 o "Byffiau" ym mhob tanc. Y terfyn cyfreithiol yw tua 600 pwff neu ddau fililitr. 

Plediodd Kalpesh Patel, sy'n 53 oed, yn euog i un drosedd o fod ag e-sigarennau untro ar gael i'w cyflenwi a oedd yn torri'r rheoliadau. Cyfaddefodd dair trosedd arall o fethu â chynnwys taflen wybodaeth gyda'r cynnyrch. 

Cafodd ddirwy o £1332 gan ynadon Cwmbrân ynghyd â gorchymyn i dalu costau gwerth £1046 ynghyd â gordal dioddefwr £133. 

Cyngor Dinas Casnewydd wnaeth ddechrau’r erlyniad yn dilyn ymchwiliad gan swyddogion safonau masnach. 

Dywedodd y Cynghorydd James Clarke, aelod cabinet y cyngor dros gynllunio strategol, rheoleiddio a thai:   "Roedd yr e-sigarennau hyn yn peri risg difrifol i iechyd ac rwy'n falch bod yr ynadon yn cydnabod difrifoldeb y drosedd. 

"Mae ein swyddogion safonau masnach i'w canmol am gymryd camau i warchod iechyd y cyhoedd trwy weithredu. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon am ddigwyddiadau tebyg posib i gysylltu â nhw."

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.