Tynnu ysgol gynradd o fesurau arbennig
Wedi ei bostio ar Wednesday 30th November 2022
Mae Estyn wedi tynnu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas o fesurau arbennig yn sgil gwelliannau.
Mae'r corff arolygu swyddogol wedi cadarnhau bod yr ysgol wedi gwneud cynnydd digonol mewn perthynas â'r argymhellion yn dilyn yr arolygiad craidd diwethaf.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y cyngor: "Fel llywodraethwr ac aelod lleol, rwy'n falch iawn bod yr ysgol allan o fesurau arbennig gan fy mod yn gwybod pa mor galed mae'r pennaeth a'i staff wedi gweithio i wneud gwelliannau sylweddol.
"Maen nhw wedi cael cefnogaeth lawn y corff llywodraethu presennol gan fod budd pennaf y disgyblion wedi bod wrth wraidd penderfyniadau. Mae strategaethau nawr ar waith i barhau â'r duedd gadarnhaol hon a fydd yn sicrhau bod y disgyblion yn cael yr addysg orau posibl."
Meddai Beccie Morteo, pennaeth addysg, Esgobaeth Mynwy: "Ar ran yr Esgob Cherry ac Esgobaeth Mynwy hoffwn longyfarch y tîm yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas a chanmol y gwaith anhygoel sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae gennym bob hyder y bydd Mr Hills yn parhau i arwain Eglwys Malpas tuag at ddyfodol disglair a chyffrous."
Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg yng Nghyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Deb Davies: "Mae hyn yn newyddion i'w groesawu'n fawr ac mae'n adlewyrchu'r gwaith gwych a wnaed gan Tom ers iddo gyrraedd yr ysgol, yr athrawon, y staff a'r llywodraethwyr.
"Maen nhw wedi cymryd camau breision ac yn gwybod y byddan nhw'n parhau i adeiladu ar y cynnydd hyd yma ac yn parhau i wneud yr ysgol yn well ac yn well er budd yr holl ddisgyblion."
Dywedodd y Pennaeth Tom Hills, a ddechreuodd yn ei swydd ym mis Medi 2021: "Rydym wedi cyflawni cymaint dros y flwyddyn ddiwethaf gyda chefnogaeth y corff llywodraethu, yr Esgobaeth, yr awdurdod addysg lleol a'r Gwasanaeth Cyflawni Addysgol, ac rwy'n falch bod yr ysgol nawr wedi ei thynnu allan o fesurau arbennig.
"Hoffwn ddiolch i'r staff am ateb yr heriau a osodwyd iddynt a chael yr ysgol i'r pwynt hwn. Mae'n nodi moment arwyddocaol yn ein taith tuag at gyflawni ein gweledigaeth o fod yn ysgol 'chwyldroadol ac uchel ei pharch' lle mae ein cymuned yn ymgysylltiedig ac integredig; lle mae ein staff wedi'u grymuso; a lle mae ein plant gwych yn cael eu hadnabod, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial."
Dywedodd Bronwen Graham, cadeirydd y llywodraethwyr: "Rydw i a'r corff llywodraethu wrth fy modd bod ein hymweliad monitro diweddaraf gan ESTYN wedi cydnabod gwaith caled di-baid y tîm cyfan yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas.
"Mae uchelgeisiau'r uwch dîm arwain i barhau ar y llwybr cadarnhaol hwn yn dod ochr yn ochr â chorff llywodraethu ymroddedig sy'n edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair ac arloesol i gymuned yr ysgol.
"Hoffem ddiolch i deuluoedd yr ysgol am eu cefnogaeth barhaus a'u hamynedd ar y daith yr ydym wedi bod arni."
Yn dilyn yr ymweliad monitro diweddar, tynnodd yr arolygwyr sylw at lawer o ganfyddiadau cadarnhaol gan gynnwys y canlynol:
• Mae'r ysgol wedi datblygu ymdeimlad clir o gymuned a hunaniaeth, gan ganolbwyntio'n briodol ar wella'r ddarpariaeth a'r canlyniadau ar gyfer disgyblion.
• Mae arweinwyr yn darparu hyfforddiant gwerthfawr a deialog broffesiynol i staff, i'w helpu i wella eu gwaith. Nid yw’r pennaeth yn ofni gwneud penderfyniadau anodd i gefnogi ymgyrch ddi-baid cymuned yr ysgol i wella.
• Mae'r staff wedi parhau i weithio gyda'i gilydd i wella'r amgylchedd dysgu ar gyfer disgyblion, y tu mewn ac o fewn tir yr ysgol, ac ansawdd y ddarpariaeth.
• Mae arweinwyr wedi gwreiddio rhaglen fonitro, gwerthuso ac adolygu gadarn a thrylwyr.
• O ganlyniad i'r cyfleoedd datblygu proffesiynol, mae'r rhan fwyaf o staff yn datblygu fel ymarferwyr myfyriol sy'n poeni'n fawr am ansawdd eu gwaith a'i effaith ar ddysgu disgyblion.
• Mae llywodraethwyr yn rhoi arweiniad strategol effeithiol i'r ysgol. Maen nhw'n deall yr angen i roi cefnogaeth a her i arweinwyr drwy eu rôl fel cyfeillion beirniadol.
• Erbyn hyn mae'r athrawon yn cynllunio gweithgareddau mwy priodol sydd â mwy o ffocws i helpu disgyblion i ddatblygu fel dysgwyr annibynnol.
• Mae arweinwyr wedi cryfhau'r prosesau i nodi a chefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ar draws yr ysgol. Mae athrawon bellach yn fwy hyderus o ran darparu cymorth a darpariaeth effeithiol ar gyfer disgyblion ag anghenion ychwanegol.