Newyddion

Uned storio beiciau newydd yn agor yng nghanol dinas Casnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 17th November 2022

Cafodd uned storio beiciau dan do newydd, y cyntaf o'i fath yng Nghasnewydd, ei hagor yn swyddogol y bore yma yn Skinner Street.

Mae Spokesafe Casnewydd yn cynnig mynediad 24/7 i feicwyr sy'n chwilio am le diogel i storio eu beiciau wrth ymweld â chanol y ddinas.

Sefydlwyd yr uned gan Gap Wales, elusen lawr gwlad yng Nghasnewydd sy'n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pobl ddigartref neu bobl mewn llety ond sy’n agored i niwed, a dioddefwyr masnachu pobl, ac sy’n gweithio i wneud Casnewydd yn lle gwell i bawb.

Mae Gap Wales eisoes yn rhedeg sawl prosiect llwyddiannus yn y ddinas, gan gynnwys prosiect Beiciau i Ffoaduriaid Casnewydd, cynllun sy'n ailgylchu beiciau ac yn eu rhoi i bobl sydd angen trafnidiaeth.

Bydd yr uned storio beiciau yn cynnig lle i storio 40 beic, gan gynnwys beiciau cargo ac ansafonol, gyda'r potensial i gynyddu hyn os oes angen. Gall beicwyr archebu lle yn yr uned gan ddefnyddio ap Spokesafe o un bunt y dydd yn unig.

Ariannwyd yr uned gan Lywodraeth Cymru trwy Uned Cyflenwi Burns, sy'n cael ei darparu gan Trafnidiaeth Cymru. Mae Uned Cyflenwi Burns wedi gweithio ar y prosiect hwn ochr yn ochr â Chyngor Dinas Casnewydd, Cartrefi Dinas Casnewydd, Heddlu Gwent, a Spokesafe, cwmni o'r DU sy'n gweithio gyda sefydliadau lleol i ddarparu llwyfannau archebu mannau storio beicio ar-lein.

Nod gwaith Uned Cyflenwi Burns yw darparu dewisiadau amgen i deithiau ar yr M4 ac annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn rhanbarth y de-ddwyrain.

Dywedodd Mark Seymour, rheolwr prosiect gyda Gap Wales: "Rydyn ni i gyd yn gwybod manteision beicio: ymarfer corff, hwb i iechyd meddwl a lles, a llai o dagfeydd a llygredd cerbydau ar y ffyrdd. Mae'r risg o gael eich beic wedi'i ddwyn wedi bod yn rhwystr i bobl sydd eisiau beicio i ganol y ddinas.

"Mae'r arian hwn wedi ein galluogi ni fel elusen i fynd i'r afael â'r mater hwn, drwy sefydlu hyb beiciau cymunedol diogel, sych, dan do, sy'n cael ei fonitro yng nghanol y ddinas, lle gall pobl adael eu beiciau a bod yn dawel eu meddwl eu bod yn ddiogel.

"Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru am ddarparu'r cyllid iar gyfer yr uned, ac i Gyngor Dinas Casnewydd a Chartrefi Dinas Casnewydd am eu cefnogaeth ac am gredu yn ein gweledigaeth."

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth: "Mae hyn yn newyddion gwych, nid yn unig i'r bobl sydd eisoes yn defnyddio beiciau i fynd o gwmpas Casnewydd ond hefyd i'r rhai sydd am ddechrau beicio. 

"Mae cael yr isadeiledd iawn yn ei le yn gwneud beicio’n haws, fel bod pobl yn cael eu hannog i leihau faint o deithiau maen nhw'n eu gwneud mewn ceir a theithio mewn ffordd sy'n well, nid yn unig i'w lles corfforol a meddyliol, ond hefyd i'n planed."

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, "Bydd agor Spokesafe Casnewydd yn ategu'r gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud i uwchraddio llwybrau teithio llesol i'r ddinas, yn ogystal â'r gwaith ar bont newydd Devon Place.

"Rydym wedi ymrwymo i'w gwneud hi'n haws i'n trigolion ac ymwelwyr ân dinas gerdded neu feicio i ganol y ddinas os ydyn nhw'n dymuno, a gobeithiwn y bydd yr uned newydd yn annog mwy o bobl i wneud hynny.

"Rydyn ni'n falch ein bod ni wedi cefnogi'r prosiect, ac rydyn ni'n canmol y gwaith ardderchog sydd wedi ei wneud gan Mark a'i dîm i gael yr uned ar waith."

Dywedodd yr Athro Simon Gibson CBE, cadeirydd Uned Gyflawni Burns: "Mae'r Uned Gyflawni Burns yn falch iawn o weld Spokesafe yn agor yng Nghasnewydd. Llongyfarchiadau i'r tîm am wneud i hyn ddigwydd.

"Bydd storio beiciau diogel yn gwneud gwahaniaeth enfawr wrth annog pobl i feicio yn y ddinas fel rhan o'u teithio bob dydd.

"Mae ei gwneud hi'n haws i deithio'n gynaliadwy yn allweddol i ddarparu de-ddwyrain glanach, gwyrddach a mwy llewyrchus."

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r cynllun yn gweithio neu i archebu lle, ewch i www.spokesafe.com/newport.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.