Newyddion

Byddwch yn rhan o Ddiwrnod Rhuban Gwyn 2022

Wedi ei bostio ar Wednesday 23rd November 2022

Gwahoddir trigolion Casnewydd i gymryd rhan a chefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn ar Ddydd Iau 25 Tachwedd. 

Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod y Cenhedloedd Unedig. 

Bob wythnos yng Ngwent, mae 33 o fenywod mewn perygl difrifol oherwydd cam-drin domestig neu drais rhywiol. 

Eleni gofynnir i drigolion, busnesau, ysgolion, a grwpiau cymunedol gofrestru ar gyfer y #33Her i godi ymwybyddiaeth o'r ffigwr syfrdanol hwn.  

Mae #Her33 yn cael ei gynnal gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol VAWDASV Gwent, cydweithrediad amlasiantaeth sy’n gweithio ledled Gwent i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae dangos cefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn yn ffordd bwysig o wneud safiad a chondemnio trais a chamdriniaeth yn erbyn menywod. 

"Mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth o'r materion hyn a sicrhau bod menywod sy'n byw mewn ofn yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain a bod help ar gael.  Dylai pawb wneud safiad a'i gwneud yn glir bod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn annerbyniol."  

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn bwysig iawn i godi ymwybyddiaeth o'r effaith ddinistriol mae trais gan yn erbyn menywod yn gallu ei gael, nid yn unig ar unigolion ond ar eu teuluoedd hefyd. 

"Eleni rydym yn annog pobl i gymryd rhan yn #Her33 i godi ymwybyddiaeth o'r nifer o fenywod sy'n byw mewn sefyllfaoedd o berygl dybryd bob wythnos oherwydd cam-drin domestig neu drais rhywiol. 

"Mae angen eich help chi arnom ni ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn i annog pobl eraill i gymryd safiad yn erbyn trais yn erbyn menywod a gofynnaf yn daer ar unrhyw un sy'n dioddef camdriniaeth i godi llais a cheisio cymorth. 

“Peidiwch â dioddef yn dawel, mae help ar gael.” 

 Mae llinell gymorth 24/7 Byw Heb Ofn am ddim ac mae ar gael i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan gamdriniaeth. 

Mae'n cefnogi dioddefwyr, goroeswyr a'r bobl sy'n agos atynt. Ffoniwch 0808 8010 800 neu anfonwch neges destun: 078600 77333.

Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng. 

I riportio digwyddiad ffoniwch 101 neu anfonwch neges at sianeli cyfryngau cymdeithasol @heddlugwent.

 

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.