Sesiynau hwyl i'r teulu a chyngor ar gostau byw
Wedi ei bostio ar Wednesday 30th November 2022
Mae sesiynau materion ariannol yn cael eu cynnal mewn pedair canolfan gymunedol y mis hwn yn dilyn sioe Nadolig wych am ddim i'r teulu i gyd.
Bydd staff y Cyngor a sefydliadau eraill yn gallu rhoi cyngor ar amrywiaeth o gymorth costau byw mewn sesiynau galw heibio ym Metws, Ringland, Maesglas a Philgwenlli.
Bydd y rhain yn dilyn cynhyrchiad o A Night Before Christmas wedi’i berfformio gan Noson Allan.
A bydd mins peis!
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros les cymunedol: "Yn dilyn llwyddiant digwyddiad a gynhaliwyd i roi cymorth gyda chostau byw yng nghanol y ddinas fis diwethaf, mae nifer o 'sioeau teithiol' llai yn cael eu cynnal mewn cymunedau lleol.
"Y sesiynau materion ariannol yw'r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal i helpu trigolion allai fod yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd ar hyn o bryd.
"A bydd y rhain yn cael eu dilyn gan sioe gymunedol hwyl drwy garedigrwydd Noson Allan a fydd yn dod â rhywfaint o hwyl yr ŵyl drwy berfformio eu cynhyrchiad o A Night Before Christmas. Diolch yn fawr iawn i bawb a fu'n rhan o drefnu'r digwyddiadau yma."
Cynhelir y sesiwn Materion Ariannol rhwng 1pm a 4pm cyn perfformiad o The Night Before Christmas rhwng 4pm a 5pm ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Mawrth 6 Rhagfyr – Canolfan Gymunedol Betws, Canolfan Betws, NP20 7TN.
Dydd Mercher 7 Rhagfyr – Canolfan Gymunedol Ringland, Ringland Circle, NP19 9PS
Dydd Iau 8 Rhagfyr – Canolfan Gymunedol Maesglas, 3 Bideford Road, NP20 3XT
Dydd Gwener 9 Rhagfyr – Pill Mill, Courtybella Terrace, NP20 2LA
Gallwch alw heibio i weld y sioe neu gadw eich lle yma www.bit.ly/hubschristmasshow