Newyddion

Bydd yr heriau sy'n wynebu trigolion, busnesau ac unigolion ar flaen ystyriaethau'r cyngor wrth iddo gynllunio ei gyllideb ar gyfer 2023/24.

Wedi ei bostio ar Thursday 10th November 2022

Bydd yr heriau sy'n wynebu trigolion, busnesau ac unigolion ar flaen ystyriaethau'r cyngor wrth iddo gynllunio ei gyllideb ar gyfer 2023/24.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i gynllunio sut y bydd y gwasanaethau pwysicaf yn cael eu darparu gyda Chyngor Dinas Casnewydd yn wynebu bwlch cyllidebol o £33 miliwn.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd y Cyngor: "Does dim dwywaith o gwbl bod y flwyddyn i ddod yn mynd i fod yn heriol. 

"Ein prif nod wrth osod cyllideb y flwyddyn nesaf fydd sicrhau bod craidd ein gwasanaethau mwyaf sylfaenol yn cael ei gynnal ar gyfer preswylwyr, ond mae'n annhebygol y bydd unrhyw wasanaeth yn cael ei ddarparu fel y mae ar hyn o bryd.  Byddwn bob amser yn ceisio cefnogi'r rhai sydd angen help llaw ychwanegol, ond mae'n fwyaf tebygol y bydd angen addasu holl wasanaethau'r cyngor.

"Mi fydd yn fater o gydbwyso anodd iawn - mae costau darparu gwasanaethau yn cynyddu yn yr un modd â chostau byw pawb. Ac ar yr un pryd, mae mwy o bobl yn cyrchu’r gwasanaethau hynny, gan gynyddu'r galw. Felly mae'n anochel y bydd gennym fwlch sylweddol rhwng pa arian sydd ar gael i ni a'r hyn sydd ei angen arnom ac hyn rydym eisiau ei wario.

"Mae llywodraeth leol gyfan yn wynebu'r un heriau. Ac ni ddaw hyn yn hir ar ôl blynyddoedd lawer o lymder pan wynebon ni doriadau cyllideb tymor real. Mae Cyngor Casnewydd eisoes wedi gweithredu dros £90m o arbedion ers 2011 - felly ychydig iawn o ddewisiadau sydd ar ôl i ni."

Mae enghreifftiau o'r costau a'r pwysau cynyddol sy’n cael eu hwynebu gan y cyngor yn cynnwys:

•           Cynnydd yng nghostau tanwydd ac ynni - mae nwy 300% yn uwch, mae trydan 150% yn uwch. Mae hyn yn effeithio ar bopeth o ysgolion i oleuadau stryd.

•           Mwy o alw am ofal - mae costau wedi codi o £43.5m yn 2019/20 i ragamcan o £58m eleni.

•           Roedd tua 1,000 yn rhagor o ddisgyblion yn mynychu ysgolion Casnewydd yn ystod y tair blynedd diwethaf.

•           Yn gysylltiedig â heriau'r pandemig, mwy o leoliadau brys i blant sy'n derbyn gofal. Cost amcan o £2.2m yn 2022/23 o'i chymharu â £300k yn 2019/20.

•           Mae cyfraddau chwyddiant o tua 10% yn cynyddu cost yr holl wasanaethau a chyflenwadau sy'n cael eu prynu gan y cyngor.

Mae mwy na thri chwarter cyllideb y cyngor yn cael ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru, sy'n golygu bod yr awdurdod yn ddibynnol iawn ar y grant hwnnw.

Mae'r arian sy'n cael ei godi drwy'r dreth gyngor ond yn cyfrif am lai na chwarter o gyllideb y cyngor, ond cydnabyddir bod hwn yn fil sylweddol iawn i drigolion, er i Gasnewydd gynnal un o'r cyfraddau isaf yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.

Ychwanegodd y Cynghorydd Mudd: "I roi cyd-destun, y gyllideb eleni am yw £343m, felly mae gorfod llenwi bwlch o tua £33m y flwyddyn nesaf yn gyfran enfawr.  Yn ogystal â hynny, mae dwy ran o dair o gyllideb y cyngor yn cael ei wario ar ysgolion, addysg a gofal cymdeithasol."

Caiff nifer o gynigion eu hystyried gan y Cabinet yn eu cyfarfod ym mis Rhagfyr ac yna'u cyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae'r arweinydd Jane Mudd yn nodi'r heriau ariannol digynsail sy'n wynebu cyngor y ddinas, wrth i'r gost o ddarparu gwasanaethau a'r galw arnynt barhau i gynyddu https://youtu.be/A2dLSpjHyIs

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.