Newyddion

Dathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 15th November 2022

Eleni, caiff Diwrnod Hawliau Gofalwyr ei gynnal ddydd Iau 24 Tachwedd a bydd yn codi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr di-dâl ac yn cydnabod eu cyfraniad at ein cymdeithas.

I ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr, bydd Tîm Cysylltwyr Cymunedol y cyngor yn cynnal digwyddiad gwybodaeth yn Theatr Glan yr Afon.

Bydd y tîm gyda phartneriaid lleol rhwng 1pm a 6pm a bydd wrth law i ddarparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer gofalwyr di-dâl o bob oed a chefndir. Darperir lluniaeth am ddim hefyd.

Gofalwr yw rhywun o unrhyw oedran sy'n gofalu am berthynas neu ffrind na allai ymdopi heb ei gymorth.  Gall hyn olygu gofalu am rywun sy’n sâl, yn anabl, â salwch iechyd meddwl, problemau cam-drin sylweddau neu y mae angen ychydig mwy o gymorth arno wrth fynd yn hŷn.

Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd gyfoeth o gymorth a gwybodaeth ar-lein i ofalwyr gan gynnwys manylion cyswllt y Tîm Cysylltwyr Cymunedol. Ewch i www.newport.gov.uk/gofalwyr

I gael gwybod mwy am hawliau gofalwyr, ewch i https://llyw.cymru/hawliau-gofalwyr

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.