Newyddion

Masnachwr tybaco anghyfreithlon yn y llys

Wedi ei bostio ar Saturday 14th May 2022

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi llwyddo i erlyn cyn-gyfarwyddwr cwmni am droseddau'n ymwneud â chynhyrchion tybaco anghyfreithlon. 

Roedd Soran Omar yn arfer bod yn gyfarwyddwr ar Global 2015 Market Ltd yn Commercial Road. 

Yn dilyn ymchwiliad gan swyddogion safonau masnach y cyngor, atafaelwyd eitemau â gwerth manwerthu o bron i £6,000. 

Ym mis Ebrill, plediodd Omar, o Commercial Road, yn euog i droseddau'n ymwneud â chynhyrchion tybaco ffug ac anghyfreithlon. 

Ar 12 Mai, cafodd orchymyn cymunedol 12 mis am 100 awr o waith di-dâl.  Cafodd y cwmni ddirwy o £5,000. 

Mae sigaréts anghyfreithlon yn llawer haws i blant eu prynu, gan eu bod yn aml yn gwerthu am brisiau arian poced gyda phris pecyn, ar gyfartaledd, yn ddim ond £5. Mae gwerthu tybaco ffug yn gwadu trethi i’r DU i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel y GIG. 

Mae'r erlyniad yn rhoi neges glir iawn i unrhyw un sy'n credu y gallant elwa o werthu tybaco anghyfreithlon - ni fydd y cyngor yn goddef hyn yng Nghasnewydd. 

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu tybaco anghyfreithlon gysylltu’n ddienw â Crimestoppers ar 0800 555 111.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.