Newyddion

Dathlwch Jiwbilî Platinwm y Frenhines

Wedi ei bostio ar Wednesday 25th May 2022
queens_platinum_jubilee_welsh

Ar 6 Chwefror 2022, Ei Mawrhydi y Frenhines oedd y Teyrn Prydeinig cyntaf i ddathlu Jiwbilî Blatinwm, gan nodi 70 mlynedd o wasanaeth i bobl y Deyrnas Unedig, y Tiriogaethau a'r Gymanwlad.

Mae Casnewydd yn paratoi i nodi Jiwbilî Blatinwm y Frenhines gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau a fydd o fudd i'r ddinas gyfan.

Ffaglau Jiwbilî'r Frenhines

2 Mehefin, 8pm – 10pm

Caeau Chwarae'r Frenhines Elizabeth II, Edward German Crescent, Ringland, Casnewydd NP19 9ND

Mae Ffaglau’r Jiwbilî yn un o ddigwyddiadau swyddogol y Jiwbilî Blatinwm. Caiff miloedd o ffaglau eu goleuo gan gymunedau, elusennau a grwpiau ledled y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau Tramor y DU.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 8pm gydag anerchiad i'w groesawu gan Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd.  Bydd perfformiadau gan Sŵn Celtaidd (grŵp Celtaidd Cerdd Gwent), ensemble pres Gwent a chôr cydweithredol Cwm Rhondda. Bydd 'Diu Regnare', darn o gerddoriaeth a gyfansoddwyd yn arbennig fel teyrnged i'w Mawrhydi yn cael ei chwarae a bydd biwglwr hefyd yn perfformio.

Am 9.45pm, bydd y Ffagl yn cael ei oleuo gan Arglwydd Raglaw Gwent, y Brigadydd Robert Aitken CBE, ac yna perfformiad pellach gan Gôr Meibion Dinas Casnewydd, Côr Meibion Adams, Côr Cadeirlan Casnewydd a Chôr Ieuenctid Cerdd Gwent.

Bydd y digwyddiad yn cau gyda'r anthemau cenedlaethol.

Cinio Jiwbilî Mawr Casnewydd

5 Mehefin, 1pm-6pm

Parc Beechwood, Casnewydd NP19 8AJ

Bydd Casnewydd yn cynnal Cinio Jiwbilî Mawr ddydd Sul 5 Mehefin ar gae uchaf Parc Beechwood.

Dewch â blanced a phicnic a dathlwch y Jiwbilî Platinwm gyda ffrindiau, teulu a'r gymuned ehangach.

Bydd Pasiant y Jiwbilî Platinwm yn cael ei ddangos ar sgrin fawr a bydd adloniant i’r teulu cyfan drwy gydol y prynhawn gan gynnwys y Blue Belles, B-Boys, Roo’d, Sunday Grannies, ac artist modelu balwnau.

Bydd y caffi yn Beechwood hefyd ar agor ar gyfer lluniaeth ysgafn.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.