Newyddion

Gwaith yn dechrau ar ailddatblygiad mawr yr ysgol

Wedi ei bostio ar Wednesday 9th March 2022

Cynhaliwyd seremoni yn Ysgol Bassaleg i nodi dechrau'r gwaith i ddisodli adeiladau sy'n heneiddio gyda chyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf.

Hwn fydd y cynllun diweddaraf i'w ddarparu gydag arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru drwy ei Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd bloc addysgu modern, mannau bwyta a gwasanaethau yn cael eu creu i ddisodli'r strwythurau hŷn.

Bydd hefyd yn sicrhau bod digon o leoedd ysgol i gwrdd â'r galw cynyddol gan fod capasiti cyffredinol Ysgol Bassaleg yn cynyddu 300 o fis Medi 2023.

Ymunodd disgyblion a staff â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, yn ogystal â chynrychiolwyr y cyngor gan gynnwys Maer Casnewydd, y Cynghorydd David Williams, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jane Mudd a'r Aelod Cabinet dros Addysg y Cynghorydd Deb Davies ar gyfer y seremoni torri tywyrch.

Dywedodd Jeremy Miles:  "Rwy'n falch iawn y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi'r Ysgol Bassaleg newydd drwy ein Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, a fydd yn creu amgylchedd dysgu gwych i'r plant a mwy o gyfleoedd i'r gymuned drwy ddefnyddio'r cyfleusterau chwaraeon newydd."   

"Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn falch y bydd y prosiect anhygoel hwn yn helpu i ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion mewn ymateb i ddatblygiadau tai newydd yn yr ardal."

Ychwanegodd y Cynghorydd Jane Mudd:  "Mae'r gwelliannau sy'n cael eu gwneud yn Bassaleg yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn ein hysgolion a'n haddysg gan y cyngor a Llywodraeth Cymru."

Ychwanegodd y Cynghorydd Deb Davies:  "Mae cyllid gan y cyngor a'r rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu wedi rhoi cyfle i ni wella'r amgylchedd i ddisgyblion a fydd yn ei dro yn gwella'r profiad dysgu.   Mae hefyd yn ein helpu i ymateb i'r galw cynyddol am leoedd wrth i'n dinas barhau i dyfu".

Meddai Victoria Lambe, Pennaeth Ysgol Bassaleg:  "Rydym yn teimlo'n hynod falch o dderbyn buddsoddiad sylweddol y mae mawr ei angen i'n seilwaith i ddarparu ar gyfer ein poblogaeth ysgol gynyddol.   Bydd y cyfleusterau sydd wedi'u huwchraddio yn ategu'r gwaith arloesol ac eang sy'n cael ei wneud ar ein cwricwlwm newydd deinamig ac yn sicrhau bod ein disgyblion yn ffynnu o fewn amgylchedd dysgu'r 21ain ganrif."

Wilmott Dixon fydd yn gwneud y gwaith yn Bassaleg.  Mae'r cwmni adeiladu wedi bod yn ymwneud â phrosiectau eraill yn y ddinas gan gynnwys adeiladu campws canol dinas Prifysgol De Cymru.

Meddai Ian Jones, Cyfarwyddwr Willmott Dixon, "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd yn Ysgol Bassaleg.  Mae gennym brofiad sylweddol o weithio yn y sector addysg ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau o'r safon uchaf ar gyfer disgyblion yr ysgol, lle gallant ddysgu a ffynnu.  

"Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd a Newport Norse, rydym yn hyderus y bydd ailddatblygu'r ysgol o fudd nid yn unig i'r disgyblion a'r staff, ond hefyd i'r gymuned ehangach.   Mae Willmott Dixon wedi ymrwymo i ymgysylltu â'r cymunedau lle mae'n adeiladu.   Adlewyrchir hyn yn y gwaith rydym eisoes yn ei wneud gyda'r ysgol a sefydliadau eraill, a hefyd y cysylltiadau cryf sydd gan ein tîm a'n partneriaid cadwyn gyflenwi gydag Ysgol Bassaleg a'r gymuned leol."

Nod y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu yw trawsnewid profiad dysgu dysgwyr, gan sicrhau eu bod yn cael eu haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth gyda'r technolegau a'r cyfleusterau sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Cwricwlwm Cymru.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar gynllun Bassaleg yn 2020 a chafodd gefnogaeth sylweddol.  Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn gynharach eleni, gan baratoi'r ffordd i'r gwaith ddechrau.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.