Newyddion

Ail-ddechrau rhoi mynediad i gerbydau i fynwentydd yn ystod yr wythnos

Wedi ei bostio ar Tuesday 1st March 2022

O yfory (2 Mawrth), caniateir cerbydau i fynwentydd St Gwynllyw a Christchurch ar ddyddiau'r wythnos ar ôl cyflwyno mesurau diogelwch newydd.

Nododd asesiad iechyd a diogelwch faterion posibl i bobl sy'n ymweld â'r mynwentydd ar yr un pryd ag yr oedd gwaith trwm yn cael ei ddefnyddio i baratoi ar gyfer claddedigaethau.

Mae camau bellach wedi'u cymryd i leihau'r risgiau hynny i alarwyr ac agor y gatiau rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Diogelwch pawb sy'n defnyddio'r mynwentydd oedd ein blaenoriaeth bob amser. Mae mynediad i gerddwyr a gorymdeithiau angladdau wedi bod ar gael drwy gydol yr wythnos ond cyfyngwyd cerbydau i benwythnosau, gwyliau banc a gwyliau crefyddol.

"Fodd bynnag, roeddem bob amser yn cydnabod bod peidio â chaniatáu i gerbydau yrru i'r mynwentydd ar ddyddiau'r wythnos yn achosi anawsterau i rai ymwelwyr er bod staff yn ceisio darparu ar gyfer y rhai â phroblemau symudedd pryd bynnag y bo modd.

"Rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb ac rydym wedi cynnwys gwariant ychwanegol yn y gyllideb i gefnogi gwelliannau i'r mynwentydd.

"Mae staff wedi gweithio'n ddiwyd i ddod o hyd i atebion sy'n golygu y gallwn nawr ganiatáu i gerbydau gael mynediad i'r mynwentydd yn ystod yr wythnos yn ogystal ag ar benwythnosau. Bydd hyn yn cyd-fynd â dechrau'r Grawys, gŵyl grefyddol bwysig.

"Yn anffodus, arweiniodd llacio'r cyfyngiadau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd at rai digwyddiadau a achosodd ddifrod ac a allai fod wedi arwain at anafiadau difrifol. Rydym hefyd wedi gweld enghreifftiau eraill o leiafrif o bobl yn gyrru a pharcio heb ystyried eraill na natur sensitif eu hamgylchedd.

"Byddem yn annog pawb sy'n gyrru yn ein mynwentydd i yrru'n ofalus a pharcio'n barchus. Bu adegau pan barciodd cerbydau ar feddau, gan achosi difrod i ardaloedd glaswelltog. Gall hyn fod yn ofidus iawn i bobl eraill pan gaiff lleiniau anwyliaid eu trin mewn ffordd mor anystyriol.

Mae Mynwent Sant Gwynllyw’n dyddio i ddechrau'r cyfnod Fictoraidd a hon oedd y fynwent ddinesig gyntaf yng Nghymru a Lloegr. Fel Mynwent Christchurch, bydd nawr ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ogystal ag ar benwythnosau a gwyliau banc.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.