Newyddion

Chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi gweithgareddau i blant anabl

Wedi ei bostio ar Monday 14th March 2022

Mae Buddies Together yn grŵp gwirfoddol newydd sy'n cael ei sefydlu i gefnogi plant a phobl ifanc anabl i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl.

Mae tîm plant anabl Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau wythnosol ac yn ystod gwyliau ysgol i bobl ifanc.

Mae rhoi cynnig ar brofiadau newydd mewn gwahanol leoliadau cymdeithasol yn helpu'r plant i ddatblygu sgiliau fel cyfathrebu ac annibyniaeth tra'n cael hwyl.

Mae Buddies Together yn chwilio am wirfoddolwyr dros 17 oed i ymuno. Byddant yn cael hyfforddiant cyn cael eu paru â grŵp neu unigolyn i'w gefnogi am ddwy i bedair awr yr wythnos.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Cymdeithasol, "Bydd rhoi ychydig oriau'r wythnos nid yn unig yn helpu person ifanc i fwynhau, bydd hefyd yn brofiad gwerth chweil a buddiol i'r gwirfoddolwr.

"Yn ogystal â rhoi cymorth gwerthfawr i blant a phobl ifanc anabl, bydd y gwirfoddolwyr yn cael dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i gefnogi rhywun ag anabledd.

"Bydd hyn hefyd yn rhoi sgiliau gwerthfawr iddynt y gallent eu defnyddio mewn hyfforddiant neu gyflogaeth yn y dyfodol. Yn anad dim, bydd y gwirfoddolwyr yn helpu'r plant i gael hwyl a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bob un o'u bywydau."

Gallai gwirfoddoli gyda Buddies Together fod yn gyfle delfrydol i fyfyrwyr sy'n cwblhau Bagloriaeth Cymru neu goleg/prifysgol, yn enwedig y rhai sydd am weithio ym maes gwaith cymdeithasol neu nyrsio.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â [email protected]

More Information